Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi y bydd ceisiadau unwaith eto yn agor ar gyfer y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol arloesol, fel rhan o ail gam dysgu Creadigol trwy'r celfyddydau - cynllun gweithredu ar gyfer Cymru.

Ers cyhoeddiad mis Chwefror o estyniad dwy flynedd arall i’r rhaglen Dysgu greadigol, mae’r tîm Dysgu creadigol wedi cefnogi ysgolion gydag ymagweddau at ddysgu ar-lein mewn ymateb i Covid-19. Fe wnaeth fersiwn wedi'i hail-lunio o'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol alluogi dros 850 o ddysgwyr, o 34 ysgol, i gymryd rhan mewn prosiect dysgu creadigol yn ystod y cyfnod clo.

O 23 Medi, bydd ysgolion yn gallu gwneud cais unwaith eto i gymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Gan ddefnyddio’r addysgeg dysgu greadigol trawsnewidiol, Arferion Creadigol y Meddwl, bydd y cynllun yn mabwysiadu modelau dysgu cyfunol, yn addasu i anghenion unigryw amgylchiadau pob ysgol, ac yn parhau i gefnogi newid ysgol gyfan i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022.

Ers dechrau'r rhaglen yn 2015, mae 658 o ysgolion wedi cymryd rhan yn y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gyda dros 1,700 o athrawon wedi profi'r budd o gydweithio â gweithwyr proffesiynol creadigol i archwilio dulliau creadigol o addysgu a dysgu. Mae ysgolion wedi nodi bod eu dysgwyr wedi meithrin eu creadigrwydd, cynyddu ymgysylltiad, a gwneud gwelliannau i gyrhaeddiad ar draws y cwricwlwm.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Rwy’n falch iawn bod y cam newydd hwn o’r cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol arloesol yn cael ei lansio, gan dargedu ysgolion newydd ac adeiladu ar y llwyddiannau a gyflawnwyd dros y pum mlynedd diwethaf. Trwy ddull dysgu cyfunol sy’n cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ‘anghysbell’, bydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol wrth gefnogi sgiliau creadigrwydd dysgwyr.”

Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwr (Ymgysylltu â'r Celfyddydau) Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae'r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi bod o fudd mawr i ysgolion ledled Cymru. Mae penaethiaid yn dweud wrthym sut mae'r cynllun yn eu helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru 2022. Addasodd y dull creadigol hwn o ddysgu yn ddi-dor i brofiad ar-lein a lwyddodd unwaith eto i ddod ag athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol ynghyd i ddatblygu a gwella gwytnwch, cydweithio a lles dysgwyr. Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â mwy o ysgolion ar y rhaglen gyffrous hon."

Fel rhan o'r broses hon bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhyddhau galwad agored i weithwyr proffesiynol creadigol sydd â diddordeb mewn ymuno â'n cronfa bresennol o Asiantau Creadigol.

Gwahoddir ysgolion sydd â diddordeb mewn ymgeisio i gofrestru ar gyfer sesiwn friffio Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae mwy o fanylion i'w gweld yma.

Bydd mwy o fanylion am y gronfa Ewch i Weld a chyfleoedd dysgu proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig â'r rhaglen yn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach yn Nhymor yr Hydref.