Roedd perfformiad gan gwmni dawns glasurol Indiaidd Pagrav Dance ynghyd â noson gyri yn Neuadd Goffa Solfach ar 12 Ebrill yn nodi diwedd cyfnod i unigolyn sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu, trwy Gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru, dwsinau o berfformiadau gan artistiaid o bob cwr o'r byd ym mhentref Solfach.

Mae Carol Ann Jones, a symudodd i'r pentref 30 mlynedd yn ôl, wedi penderfynu ei bod hi’n bryd trosglwyddo'r awennau, er ei bod yn addo parhau i fod yn rhan o'r pwyllgor ac yn aelod selog o'r gynulleidfa.

Yn 88 oed, dywed Carol Ann fod y defnydd cynyddol o ddulliau digidol o farchnata a chyfathrebu ar e-bost a chyfryngau cymdeithasol yn golygu ei bod bellach yn hapus i gymryd cam yn ôl, ar ôl 20 mlynedd o weithio gyda'r pwyllgor i ddod â sioeau i'r pentref yn Sir Benfro.

Dywedodd Carol Ann, "Rwy'n trosglwyddo i wraig sydd yn llawn egni, llawer mwy nag oedd gen i erioed rwy'n meddwl, ac mae hi'n wych ar yr ochr dechnolegol a'r coginio, felly mae hi'n mynd i fod yn wych, rwy'n sicr."

Yn ôl i’r dechrau

Dechreuodd Carol Ann drefnu digwyddiadau Noson Allan tua'r adeg y cafodd y neuadd ei hadnewyddu yn 2005, pan wnaed gwelliannau, gan gynnwys gosod llawr newydd a newid y toiledau. Roedd y neuadd wedi trefnu digwyddiadau fel dawnsfeydd a dramâu yn y gorffennol, ond ar y pryd roedden nhw'n meddwl am syniadau newydd ar gyfer dod â'r gymuned at ei gilydd.

"Mae'n neuadd oedrannus ac mae'n gan mlwydd oed, ond rydw i wrth fy modd," eglura Carol Ann. "Rydw i wedi bod yn byw yma ers 30 mlynedd ac yn ymweld ers 63 mlynedd, ac rwy'n caru Solfach - mae'n gymuned mor hyfryd. Y tro cyntaf i mi ddechrau meddwl am drefnu rhywbeth yn ein pentref bach, roeddwn mewn siop fferm gerllaw, a sylwais ar boster ar gyfer y Mellstock Band. Rwy'n ffan mawr o Thomas Hardy fel cyn-athrawes, ac felly sylwais ar y gair Mellstock! Es i i weld y cynhyrchiad mewn  capel bach i lawr yn Ne Sir Benfro, ac roeddwn i'n meddwl, 'Dwi'n meddwl y gallem wneud rhywbeth fyel hyn’, a felly y bu.

"Ers hynny, rydyn ni wedi cael cwpl o actiau trwy Noson Allan bob blwyddyn. Un o'n ffefrynnau mawr yw'r cwmni theatr Farnham Maltings  – mae’n rhaid ein bod wedi eu croesawu tua 8 i 10 gwaith. Pe baen nhw'n dweud bod ganddyn nhw sioe newydd byddwn i'n dweud, 'iawn, awn ni am hwnnw', doedd dim angen i mi hyd yn oed wybod beth oedd yn mynd i fod, oherwydd eu bod nhw bob amser mor dda. Roedden nhw fel arfer yn gwneud drama a ysgrifennwyd gan gyfarwyddwr y grŵp – weithiau roedden nhw'n gwneud addasiadau fel Miracle on 34th Street neu It's a Wonderful Life, ond yn bennaf eu gwaith gwreiddiol eu hunain. Pethau i wneud i chi feddwl, a bob amser yn dda.

"Yr hyn rydw i wedi ceisio ei wneud yw cael amrywiaeth o bethau. Un peth a oedd yn drobwynt go iawn oedd pan wahoddodd Peter a Hilary o Gyngor Celfyddydau Cymru fi i'r Gynhadledd Teithiol Gwledig yng Nghaerllion - roedd hynny'n agoriad llygad mewn gwirionedd. Gwnaeth i mi sylweddoli ehangder y gwaith a oedd ar gael trwy ddangos darnau bach o sioeau i ni, a daeth dau o'r sioeau hynny i lawr i Solfach ar ôl hynny. Un oedd Mabon, sef grŵp o Gaerdydd a ddaeth atom dair gwaith. Byddai pobl yn dechrau dweud wrthyf i ‘Oes gennych chi Farnham Maltings?' 'Ydych chi wedi cael Mabon eto?' Felly dod i’w hadnabod a'u dilyn. Mae rhai pobl yn dod i bopeth, maen nhw jyst yn ein cefnogi. Mae pobl eraill yn penderfynu beth fydden nhw'n ei hoffi."

Dod i adnabod y perfformwyr

Dros amser, mae Carol Ann a'i chyd-wirfoddolwyr wedi datblygu perthynas gryf gyda rhai o'r actau mwy rheolaidd:

"Rydyn ni'n dod i adnabod yr actau ac mae hynny'n hyfryd. Rydym wedi cael nosweithiau gwych gyda Kevin Tomlinson o Kepow Theatre sy'n gofyn i'r gynulleidfa ei helpu i ysgrifennu sioe gerdd, gyda phawb yn ysgrifennu caneuon ar ddarn o bapur. Ar ôl pandemig Covid, dewisais ef fel yr un cyntaf i ddod yn ôl oherwydd roeddwn i'n gwybod bod pawb yn ei hoffi ac y byddai'n noson hwyliog. Maen nhw i gyd yn dda, rydyn ni wedi cael cerddorion, rydyn ni wedi cael rhywun o Ffrainc. Maen nhw'n gwneud gwaith mor galed mewn gwirionedd, i gael y cyfan i mewn a phopeth i fyny, dwi’n meddwl ei fod yn anhygoel."

Dros y blynyddoedd, mae Carol Ann wedi dysgu llawer am raglennu.

"Rwy'n hoffi'r hyn rwy'n ei hoffi ac rwy'n hoffi'r hyn rwy'n meddwl y bydd pobl eraill yn ei hoffi, ond wrth gwrs mae'r gynulleidfa yn newid drwy'r amser. Mae rhai pobl yn ei adael tan y funud olaf i brynu tocynnau sydd, rhaid cyfaddef, wedi rhoi ychydig o nosweithiau di-gwsg i mi dros y blynyddoedd, ond rwy'n berson sy'n archebu'n gynnar, rwy'n sylweddoli nad yw pawb yr un peth."

Esblygu'n gyson

Wrth edrych yn ôl, mae Carol Ann yn awyddus i bwysleisio pa mor egnïol yw’r pobl sydd wrth galon cymunedau pentref.

"Rwy'n credu gyda Chymdeithas Ddrama Amatur Solfach (SADS) a SADS Ifanc, y Clwb Ffilm a Noson Allan, rydyn ni wedi gallu tynnu at ein gilydd a dod â theatr ac ychydig o ddiwylliant i'r pentref mewn gwirionedd. 

"Mae Noson Allan wedi bod yn wych. Fedra’i ddim eu canmol nhw ddigon. Maen nhw mor ddefnyddiol, ac rydw i wastad wedi ceisio cael cymaint o arian ag y gallaf o'r gwerthiant tocynnau fel y gallwn eu talu'n ôl, iddyn nhw drosglwyddo hynny ymlaen i gymunedau eraill roi cynnig arni.

Mae cynlluniau fel Noson Allan yn hanfodol ar gyfer bywyd pentref yn fy marn i.  Mae gennym Theatr y Torch yma yn Sir Benfro, sy'n wych, ond mae llawer o bobl wedi ymddeol a dych chi ddim eisiau mynd milltiroedd yn y nos. Nid yw hynny'n golygu eich bod eisiau aros yn y tŷ, ond yn hytrach gwneud pethau yn agosach at adref ac mae Noson Allan yn gweithio'n dda iawn ar gyfer hynny.

Y dyfodol 

"Mae pobl yn poeni na fydd aelodau ar gyfer y pwyllgor yn y dyfodol, ond dwi ddim. Rwy'n credu pan fyddwch chi'n hŷn ac yn ymddeol, rydych yn edrych o gwmpas am bethau i'w gwneud, ac rwy'n credu y bydd hynny'n parhau. Mae gennych yr amser, yn wahanol i bobl sy'n gweithio, ac mae gennych yr egni.

“Peth arall sy'n dda gyda rhai o'n tîm newydd yw bod gennym far nawr, ac mae hynny'n gwneud llawer o wahaniaeth. Yn ddiweddar fe wnaethon ni goctels i ddau adeg y Nadolig ac roedd hi'n noson mor bleserus, gyda chanwr ‘big band’ lleol, Tony Jacobs. 

"Rwy'n credu bod pobl yn dod draw fel y gwnes i 30 mlynedd yn ôl - dod i mewn i gymuned, darganfod fod yna ‘buzz’ yma, ac yn ei fwynhau. Rwy'n obeithiol iawn am y dyfodol."

I ddysgu mwy am y cynllun Noson Allan, ewch i https://www.nosonallan.org.uk/