internationale tanzmesse nrw yw un o'r digwyddiadau proffesiynol mwyaf sy'n ymroddedig i ddawns gyfoes. Eleni, caiff y digwyddiad, a gynhelir bob dwy flynedd yn Dusseldorf, yr Almaen, ei gynnal rhwng 28 ac 31 Awst 2024.

Gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnig pedair bwrsariaeth i gefnogi dawnswyr proffesiynol Cymreig a rhai o Gymru i fynychu fel cynrychiolwyr. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mercher, 10 Gorffennaf.

 

Mae tair prif agwedd ar Tanzmesse:

  • Agora – y gofod arddangos hwn yw’r hwb canolog lle gall cwmnïau, artistiaid a sefydliadau gyflwyno eu gwaith eu hunain a chynrychioli artistiaid
  • Rhaglen berfformio – rhaglen o berfformiadau ar lwyfan, awyr agored a digidol, a sesiynau Stiwdio Agored a Mewnwelediad sy’n galluogi’r artistiaid a dewisiwyd i broffilio eu cynyrchiadau, eu dulliau gweithio a’u syniadau am brosiectau
  • Siarad a Chysylltu – rhaglen o drafodaethau, paneli a chyweirnodau.

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fydd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad eleni, gan gynnwys stondin Dawns o Gymru o fewn yr Agora. Bydd hyn yn cyd-fynd â phresenoldeb ehangach y DU a fydd yn gweld FABRIC yn cydlynu dirprwyaeth Dawns o Loegr, The Work Room yn arwain presenoldeb Dawns o'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan trwy Dance Ireland. Mae rhai cwmnïau a sefydliadau, er enghraifft The Place, hefyd yn dewis cael eu presenoldeb eu hunain yn Tanzmesse, gan gydnabod ei bwysigrwydd fel lle i rwydweithio a chysylltu.

 

Pwy ddylai wneud cais?

Byddwch yn ymarferydd dawns neu'n gynhyrchydd wedi'i leoli yng Nghymru neu'n datblygu gwaith yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae gennych ddiddordeb mewn datblygu proffil a chynulleidfa ryngwladol ar gyfer eich gwaith, neu mae gennych ddiddordeb mewn datblygu proffil a chynulleidfa ryngwladol. Fel cynrychiolydd byddwch yn cael y cyfle i archwilio marchnadoedd a rhwydweithiau rhyngwladol a rôl arddangosiadau a llwyfannau.

Rydym yn bwriadu cefnogi dwy o’r pedair bwrsariaeth i’r rai sy'n gymharol newydd i'r broses o gynrychioli eu gwaith o fewn marchnad ryngwladol, ac a fyddai'n cael budd o gael profiad o fynd i farchnad o'r fath drwy ymweliad a gefnogir gan Tanzmesse.

Mae'n debygol y bydd y ddwy fwrsariaeth arall yn cael eu cynnig i artistiaid neu gynhyrchwyr sydd wedi ymweld â Tanzmesse o'r blaen, ac sy'n gallu dangos sut mae ei bresenoldeb yno wedi bod o fudd i'w datblygiad proffesiynol, ac wedi arwain at gyfleoedd iddyn nhw, neu eu cwmni.

 

Yr hyn y byddwn yn talu

Byddwn yn trefnu ac yn talu costau ar gyfer:

  • Teithiau trên rhwng Cymru a Düsseldorf ac yn ôl – byddwch yn teithio fel grŵp gyda chynrychiolwyr eraill o Gymru
  • Llety pum noson yn Düsseldorf
  • Tâl cofrestru cynrychiolwyr

Byddwch hefyd yn derbyn honorariwm o £800 i dalu am amser a threuliau.

Bydd sesiwn friffio cyn yr ymweliad ar gyfer y ddirprwyaeth o Ddawns o Gymru a byddwch yn derbyn cefnogaeth a chyngor cyn ac yn ystod yr ymweliad gan Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru & Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae sesiwn ar-lein ar y cyd sy'n agored i holl gynrychiolwyr y DU hefyd yn cael ei chynllunio.

Bydd amser ar gael i chi gymryd rhan yn y rhaglen o seminarau, mynychu digwyddiadau rhwydweithio a mynd i weld sioeau o fewn y rhaglen artistig; fodd bynnag, bydd disgwyl i chi gyfrannu at y gwaith o staffio'r stondin yn ystod oriau penodol.

Rhaid eich bod ar gael i gymryd rhan yng nghyfnod llawn Tanzmesse (28 i 31 Awst 2024, yn ogystal â diwrnodau teithio ar 27 Awst a 1 Medi) a rhaid bod deunydd marchnata ar gael gennych y gellir ei addasu i'w ddefnyddio yn Tanzmesse.

 

Sut mae gwneud cais?

Bydd angen i ni asesu effaith ddisgwyliedig cymryd rhan yn yr ymweliad â chymorth tanzmesse ar eich gyrfa ryngwladol ddatblygol chi, neu eich cwmni, a hoffem wybod:

  • Pam fod gennych ddiddordeb mewn mynychu tanzmesse eleni?
  • Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni o'r ymweliad?
  • Pam ei bod yn amserol ar gyfer y gwaith yr ydych yn ymwneud ag ef ar hyn o bryd neu'n dymuno ei gyflawni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf?
  • Pa brosiectau neu rwydweithiau rhyngwladol ydych chi wedi bod yn rhan ohonynt ac a oes unrhyw ddiddordeb rhyngwladol cyfredol yn eich gwaith?
  • Pa ffeiriau neu ddigwyddiadau masnach rhyngwladol yr ydych wedi mynychu o'r blaen?

 

Yr hyn sydd ei angen arnom gennych chi:

  • Datganiad o Ddiddordeb (EOI) heb fod yn fwy na 750 o eiriau sy’n ymateb i’r meysydd uchod. Byddwn yn derbyn llythyr eglurhaol un ai ar ffurf ysgrifenedig neu fel fideo ar lafar neu yn Iaith Arwyddion Prydain. Rydym yn ymroddedig i ddiwallu anghenion o ran mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch.
  • CV diweddar
  • Dolenni i wefannau perthnasol neu ddeunydd ar-lein

Anfonwch at chris@ndcwales.co.uk, wedi’i nodi ‘Bwrsari EOI Tanzmesse 2024’.

 

Pryd y gallaf wneud cais?

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mercher, 10 Gorffennaf.

Byddwch yn derbyn penderfyniad erbyn dydd Iau, 18 Gorffennaf 2024 fan bellaf.

 

Cwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â naill ai Chris Ricketts yn National Dance Company Wales (chris@ndcwales.co.uk) neu Nikki Morgan yn Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (nicola.morgan@wai.org.uk).