Bwrsari Ein Llais 2024 mewn partneriaeth â Theatr y Sherman 

Ar gyfer artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n awyddus i ddatblygu fel storïwyr.

Nod Bwrsari Ein Llais 2024 yw cefnogi 2 artist o’r Mwyafrif Byd-eang, am flwyddyn, i ddatblygu fel storïwyr ac i feithrin cysylltiadau yn sector y celfyddydau yng Nghymru. 

Dewisir 2 ymgeisydd drwy broses agored, gan chwilio am y rhai hynny nad oes ganddynt brofiad ffurfiol na phroffesiynol fel ysgrifenwyr, ac sy’n angerddol dros adrodd straeon – yn ystyr ehangaf y gair. 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth am flwyddyn (Medi 2024 – Awst 2025) yn y dulliau canlynol:

  • sesiynau mentora misol gyda staff Theatr y Sherman i gefnogi eu datblygiad fel storïwyr;
  • cefnogaeth gan Krystal S. Lowe, yr artist a sefydlydd Rhwydwaith Ein Llais, yn cynnwys cymorth gyda llunio ceisiadau a CV, adborth ar syniadau, dod o hyd i waith a chyfleoedd, a meithrin cysylltiadau gyda phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad eu gyrfa;
  • arddangosiad cyhoeddus o’u gwaith-ar-waith yn y digwyddiad Rhannu Ein Llais 2025 a gynhelir yn Theatr y Sherman a’i gynhyrchu gan Krystal S. Lowe; ynghyd â
  • bwrsari o £500 i helpu gyda chostau ac amser i ddatblygu eu ffurf gelf. 

Bydd Theatr y Sherman yn cefnogi derbynwyr y bwrsari i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith â thâl drwy gydol y flwyddyn, yn Theatr y Sherman neu rywle arall.
 

Pwy all ymgeisio?

  • Rhaid i ymgeiswyr fod o’r Mwyafrif Byd-eang*, yn angerddol ynghylch adrodd straeon, a bod â’r awydd i ffocysu ar ddatblygu fel storïwyr.
  • Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol na chredydau proffesiynol fel ysgrifenwyr.  
  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi eu lleoli yng Nghymru. 
  • Gall ymgeiswyr fod yn gweithio mewn unrhyw ffurf ar gelfyddyd, neu heb eto ddechrau ar yrfa yn y celfyddydau. 

*Mae Rhwydwaith Ein Llais yn defnyddio’r term Mwyafrif Byd-eang ar gyfer y rhai sydd o, neu’n ddisgynyddion o, Affrica neu Asia.

 

Sut i ymgeisio

Anfonwch ebost at ourvoicenetwork.contact@gmail.com erbyn 30 Mehefin yn ymateb i’r sylwadau canlynol mewn 300 gair, neu trwy Fideo/Sain o ddim mwy na 4 munud:

  • Disgrifiwch pwy ydych chi, beth sy’n bwysig i chi yn y byd, a beth rydych yn mwynhau treulio amser yn ei wneud.
  • Dywedwch wrthym beth rydych yn ei fwynhau fwyaf ynghylch adrodd stori, a pha fath o bethau rydych yn gobeithio eu dweud drwy eich crefft. 
  • Rhannwch pa gymorth yr hoffech ei gael er mwyn datblygu eich gyrfa fel storïwr.

 

Amserlen:

1 Ebrill – Ceisiadau ar agor

30 Mehefin – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 

Gorffennaf – Cyfweliadau 

6 Awst – Penderfynu ar y dewis 

31 Awst – Digwyddiad Croesawu i ddechrau blwyddyn y bwrsari 

 

Caiff Bwrsarïau Ein Llais 2024 eu hariannu gan Theatr y Sherman

 

Dyddiad cau: 30/06/2024