Teitl y prosiect
‘Mae gwrando yn gam mawr': Cyd-ddatblygu Fframwaith Amlasiantaethol gyda Menywod Du ac o Leiafrifoedd Ethnig ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Trosolwg o'r prosiect
Arweinir y prosiect hwn gan Brifysgol De Cymru mewn partneriaeth â Bawso ac mae’n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bawso yw'r sefydliad arweiniol yng Nghymru sy'n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i ymfudwyr Du a Lleiafrifol Ethnig (BME) sydd wedi dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol, masnachu pobl, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) a phriodas dan orfod.
Bydd y prosiect yn archwilio gwaith amlasiantaethol mewn perthynas ag anghenion a phrofiadau menywod BME y mae VAWDASV yn effeithio arnynt, er mwyn cyd-ddatblygu fframwaith amlasiantaethol ar gyfer Cymru. Bydd y fframwaith yn llywio'r ffyrdd y gall asiantaethau weithio gyda'i gilydd orau i atal, diogelu a chefnogi menywod o leiafrifoedd ethnig.
Mae'r prosiect yn cynnwys dau ymchwilydd o gymuned Bawso, a grŵp cynghori sy'n cynnwys tîm y prosiect, defnyddwyr presennol neu gyn ddefnyddwyr gwasanaeth Bawso, a gweithwyr proffesiynol yn cynrychioli gwasanaethau statudol.
Cwmpas y gwaith
Rydym yn dymuno comisiynu hwylusydd gweithdai Adrodd Storïau Digidol (ASD) sydd â sgiliau golygu clyweledol cryf i weithio yn rhan o'r prosiect i hwyluso 2 weithdy (wedi'u cyflwyno mewn person, a dros 2 ddiwrnod yr un), a chyd-greu deunydd ar gyfer 12 o Storïau Digidol drwy’r gweithdai. Bydd y Storïau Digidol yn codi o brofiadau menywod Du a Lleiafrifol Ethnig sydd wedi profi VAWDASV ac sy'n defnyddio gwasanaeth Bawso nawr, neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol.
Bydd naill ai arweinydd y pecyn gwaith, yr Athro Emily Underwood-Lee, neu uwch gynorthwyydd ymchwil y prosiect, Dr Sophia Kier-Byfield (arsylwi cyfranogwyr), a Vilas Kerrai (cefnogi cyfranogwyr Bawso). Bydd holl waith y gweithiwr llawrydd hefyd yn cael ei oruchwylio gan aelodau'r tîm drwy gydol y broses. Yn dilyn y gweithdai, bydd yr hwylusydd yn golygu'r holl ddeunydd a gasglwyd i greu a chyflwyno 12 o Storïau Digidol yn unol â’r hyn y cytunir arno gyda’r cyfranogwyr i gyd yn ystod y gweithdai.
Bydd y straeon hyn yn cael eu hadolygu gan gyfranogwyr a thîm y prosiect. Bydd y sgyrsiau adolygu yn cael eu cydlynu gan dîm y prosiect a bydd yr adborth yn cael ei gyfleu i'r hwylusydd. Yn dilyn adborth gan dîm y prosiect, efallai y bydd gofyn i'r hwylusydd ail-olygu'r storïau unwaith i greu'r ffilmiau 3 munud terfynol. Disgwylir i'r hwylusydd roi isdeitlau Saesneg ar bob ffilm a gyflwynir yn Saesneg.
Efallai y bydd anghenion iaith gwahanol yn y gweithdai, a gallai cyfieithwyr fod yn bresennol i gynorthwyo cyfranogwyr. Gall straeon gael eu recordio mewn ieithoedd eraill o ddewis y cyfranogwyr a darperir cyfieithiad wedi'i recordio yn ystod y gweithdai i greu’r fersiwn Saesneg. Bydd gofyn i'r hwylusydd olygu/ychwanegu delweddau ac ati i'r fersiynau hynny hefyd, gan felly greu dwy fersiwn o'r un stori.
Bydd gan hwylusydd y gweithdai Adrodd Storïau arbenigedd mewn casglu a chyd-greu Storïau Digidol gyda chymunedau agored i niwed/wedi’u hymylu a gweithio gyda grwpiau amrywiol o gyfranogwyr gweithdai. Bydd yn brofiadol o ran cyflawni gwaith yn brydlon, o fewn y gyllideb ac yn unol â nodau ac amcanion y prosiect. Bydd yr hwylusydd yn sensitif i anghenion goroeswyr, yn deall moeseg gweithio gyda straeon goroeswyr, ac yn cadw at gymeradwyaethau/dogfennau Pwyllgor Moeseg y Brifysgol a’i phrotocolau rheoli data, fydd yn cael eu hesbonio'n glir.
Rydym yn rhagweld y bydd 6 o gyfranogwyr ym mhob gweithdy, a gynhelir yn adeiladau Bawso. Rydym yn rhagweld y bydd 1 gweithdy (dros 2 ddiwrnod) yng Ngogledd Cymru, ac 1 gweithdy (dros 2 ddiwrnod) yn Ne Cymru. Mae'r cynlluniau hyn yn amodol ar newidiadau posibl yn dibynnu ar y nifer sy'n cymryd rhan a meini prawf cyfranogwyr.
Amserlen: Mae'r prosiect yn cael ei ariannu am ddwy flynedd, o fis Hydref 2024 tan fis Medi 2026.
- Cynhelir y gweithdai Storïau Digidol ym Mawrth ac Ebrill 2025, gyda lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd i'w cytuno gan yr hwylusydd a'r tîm prosiect.
- 12 o Storïau Digidol i’w cyflwyno erbyn 30 Mai 2025
- Adborth wedi’i gyflwyno i’r hwylusydd erbyn 30 Mehefin 2025
- Cyflwyno’r Storïau Digidol terfynol: Diwedd Gorffennaf 2025
Drwy gydol yr amserlen hon, disgwylir diweddariadau cynnydd rheolaidd trwy e-bost a chyfarfodydd Teams, wedi’u trefnu gan yr hwylusydd. Gellir gwahodd yr hwylusydd yn achlysurol hefyd i gyfarfodydd tîm y prosiect i gynnig diweddariad ehangach, dangos enghreifftiau, ac ati.
Tâl: Cyfanswm y tâl ar gyfer y comisiwn hwn yw £4,000 (gan gynnwys TAW). Bydd 50% o’r tâl yn cael ei dalu o flaen llaw, a 50% ar ôl cwblhau’r gwaith. Mae'r tâl yn cynnwys unrhyw gostau'n gysylltiedig â theithio a chynhaliaeth a bydd y gweithiwr llawrydd yn darparu ei offer ei hun.
Mynegi diddordeb: I fynegi eich diddordeb yn y cyfle, cysylltwch â'r tîm trwy'r cyfeiriadau e-bost isod, gyda CV, enghraifft o waith Adrodd Storïau Digidol blaenorol, ac esboniad hanner tudalen o'ch diddordeb yn y prosiect a pham y byddech yn addas erbyn hanner nos, Sul 23 Chwefror 2025. Bydd gweithwyr llawrydd a gaiff eu rhoi ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfarfod byr gyda'r tîm i drafod y cyfle. Sylwer y bydd angen i'r gweithiwr llawrydd a gomisiynir gael yswiriant cyfredol yn unol â gofynion y Brifysgol i gael cofrestru fel cyflenwr.
Sarah Wallace: sarah.wallace@southwales.ac.uk
Emily Underwood-Lee: emily.underwood-lee@southwales.ac.uk
Sophia Kier-Byfield: sophia.kier-byfield@southwales.ac.uk