Crynodeb
Rydyn ni'n gwahodd awduron, beirdd, ysgrifenwyr, cerddorion a pherfformwyr i'n helpu i greu cynnwys arbennig newydd ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru 2025. Rydyn ni'n cynnig hyd at dri chomisiwn o £600 yr un.
Dyddiad cau derbyn cynigion: 12pm, 13 Medi 2024
Byddwn ni'n anelu at roi gwybod i'r ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted â phosib erbyn 18 Medi 2024. Rhaid i bob gwaith fod wedi'i orffen a'i gyflwyno i BookTrust Cymru erbyn 13 Rhagfyr 2024.
Am Amser Rhigwm Mawr Cymru
Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru / The Big Welsh Rhyme Time yn ddathliad cenedlaethol wythnos o hyd sy'n dathlu rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon yn y blynyddoedd cynnar. Ei nod yw hybu ac annog gweithgareddau rhannu rhigymau hwyliog a phleserus ar gyfer plant ifanc yng Nghymru rhwng 0 a 5 oed, yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n cefnogi sgiliau cyfathrebu a llythrennedd cynnar a chreadigrwydd.
Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru 2025 yn digwydd rhwng 10–14 Chwefror. Neges allweddol eleni fydd 'Bwrlwm y Rhigwm i Bawb'.
I drafod y prosiect, cysylltwch os gwelwch yn dda â BookTrust Cymru: booktrustcymru@booktrust.org.uk