Roedd Celf ar y Blaen ynghyd â Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn falch iawn o lansio’r llyfryn Blas ar Natur yn Ysgol Gynradd Sant Illtyd ddydd Gwener 15 Tachwedd.
Cynhyrchwyd y llyfryn yn dilyn cyflwyno’r prosiect Blas ar Natur, a oedd yn cyfuno celfyddydau creadigol, gweithgareddau natur a bwyta’n iach. Cefnogwyd y prosiect Blas ar Natur gan gyllid gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer y celfyddydau, iechyd a lles a ddarparwyd trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r llyfryn yn cynnwys uchafbwyntiau’r prosiect Blas ar Natur ochr yn ochr â ryseitiau iach am gost isel a syniadau am weithgareddau y gall teuluoedd eu gwneud gyda’i gilydd i fod yn greadigol, mynd allan i’r awyr agored a chysylltu â byd natur.
Cafodd disgyblion a gymerodd ran yn y lansiad gyfle i roi cynnig ar rai o’r gweithgareddau hyn, gan gynnwys dysgu am wenyn bywiog trwy foment greadigol, darganfod sut mae bwyd yn tyfu yn ystod sesiynau plannu, ac ysgrifennu rhigymau bwyd hwyliog am eu hoff ffrwythau a llysiau.
Esboniodd Chris Nottingham, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent: “Mae’r prosiect Blas ar Natur wedi cynnig agwedd greadigol tuag at fwyta’n iach, gan helpu i gynnig dewisiadau amgen i fwyd wedi’i brosesu’n helaeth a mynd i’r afael â her iechyd sylweddol yn ein cymuned. Mae wedi bod yn wych gweld sut mae teuluoedd wedi ymateb i’r sesiynau a gyflwynwyd dros y misoedd diwethaf – rydym yn gobeithio y bydd y llyfryn yn galluogi mwy o deuluoedd i roi cynnig hefyd ar rai o’r syniadau hyn gyda’i gilydd gartref.”
Gellir gweld y llyfryn ar wefan Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent Blas ar Natur – Bwyd BG.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Chris Nottingham, Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent
chris.nottingham@taicalon.org
Bethan Lewis, Celf ar y Blaen
bgarts@blaenau-gwent.gov.uk