Am y Prosiect:
“Weithiau, dwi’n teimlo fel tramorwr yn fy nghorff fy hun.”
Mae Tramorwr Yn Fy Nghorff yn brosiect cyffroes newydd gan Sara Hartel sy’n cyfuno theatr gorfforol, syrcas a hygyrchedd i archwilio’r cyfyngiadau mae iaith yn rhoi ar unigolion. Mae’n seiliedig ar brofiadau nhw fel artist trawsrywiol a mewnfudwr i’r DU. Mae TYFN yn archwilio’n ddewr y tebygrwydd rhwng y ddau brofiad, yn enwedig y ffordd mae’r gymdeithas yn gorfodi cyfyngiadau o gwmpas ein rhyddid i archwilio tirluniau’r byd a chyrff ein hunain.
Gyda phartneriaeth syrcas No Fit State a theatr Torch, mae’r Y&D yma eisiau creu sioe sy’n cyfuno syrcas, theatr gorfforol a straeon hunangofiannol gyda disgrifiadau clywedol faleisus a fydd yn gorfodi’r perfformiwr mewn i symudiadau rhyweddol. Bu’r sioe yn grymuso cynulleidfaoedd cwiar trwy ddarlunio llawenydd traws dilys a chaledi, wrth hefyd caniatâi cynulleidfaoedd di-LHDBC+ i deimlo sut mai i fod yn dramorwr o fewn eu cyrff eu hunain trwy’r trosiad o groesi ffiniau, yn clymu fe gyda statws mewnfudwr fy hun.
Ariannu’r prosiect yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Amdana i:
Sara Hartel ydw i. Crëwr theatr traws a mewnfudwr wedi’u lleoli yng Nghymru. Dwi’n creu gwaith arbrofol sy’n croesi ffiniau ffurf a genre. Os oes rhaid diffinio gwaith fi, byddwn i’n dweud taw dylanwadau cynradd fi yw gwaith rhyngweithiol ac ymdrochol ynghyd a theatr gorfforol. Dwi’n creu gwaith sy’n galluogi cynulleidfaoedd i archwilio profiadau newydd, un ai darganfod y dewrder i guro yn ôl yn erbyn cyfundrefn cyfalafiaeth greulon, neu ddweud straeon mewn ffurf newydd trwy’r moddau o gysylltu i ein cyrff neu ddefnyddio hygyrchedd yn greadigol fel offeryn i adrodd straeon.
Dwi wedi bod yn artist arweiniol ar amryw o brosiectau dros wahanol ffurfiau o gelf ac yn ymestyn ffiniau theatr. Er enghraifft, datblygu gem realiti amgen er lles gweithwyr iechyd a gofal cymunedol i gwmni Cultural Cwtch, neu prosiect mwyaf diweddar fi yn datblygu darn i “Arddangosfa lleoedd Cwiar” Oriel Elysium, lle cydweithiais i gydag adluniau GUNK i greu gosodiad celf dewis-antur-dy-hun. Hefyd, ysgrifennais i, “Strike Ltd.” I Theatr Volcano – sioe ryngweithiol un person sy’n ysbrydoli’r gynulleidfa i derfysgu. Mae adio sidanau awyrol i fy ngwaith wedi cynnig heolydd cyffroes newydd i mi ymchwilio o fewn fy methodoleg sydd yn barod wedi cymysgu gwahanol ffurfiau o gelf i greu profiadau theatr sy’n gwthio heibio syniadau traddodiadol theatr.
Am y rôl:
Dwi’n edrych am wahanol artistiaid symudol i ddod i mewn i’r broses am un diwrnod yr un. Byddech chi’n helpu creu dilyniant penodol yn seiliedig ar eich ymarfer fel rhan o’r Y&D. Efallai bu’r dilyniant yn rhan o’r cynhyrchiad ond fydd hi hefyd yn gweithio fel cyfnewid sgiliau wrth i mi ddysgu am eich ymarfer, a chi’n dysgu am ymarfer fi. Efallai eich bod chi’n ddawnsiwr, ymarferwr theatr gorfforol, brenhines drag, artist syrcas, neu berson creadigol arall sy’n defnyddio eu cyrff yn eu gwaith.
Byddech chi:
- Yn darparu gweithdy cychwynnol o’ch ymarfer a phroses creadigol.
- Cydweithio ar ddyfeisio rhan benodol o fewn y gwaith sydd wedi'i ysbrydoli gan y cysylltiad o ymarfer chi a fi.
- Yn cydweithydd weithredol ac yn ymarferwr o cyd-greu.
Logisteg (Y Ffeithiau):
- Bod ar gael i weithio yng Nghaerdydd yn y No Fit State Circus am un diwrnod w/d 13/01/25 neu w/d 20/01/25. Bydd cyflwyniad yn Theatr Torch ym Milford Haven a bydd croeso i chi ymuno, ond ni fydd hi’n angenrheidiol neu yn rhan o’ch ffi.
- Y Ffi: £200 am 1 diwrnod.
I wneud cais:
Anfonwch eich CV i Sara-S-Hartel@live.de ynghyd ac ymateb i un o’r pethe isod erbyn 30/9/24 am 23.59. Gall ymatebion bod yn Saesneg neu Gymraeg ac wedi’u hysgrifennu, recordio’n glywedol neu fideo.
- Dweud wrthyf amdanoch hunain, eich ymarfer, eich dylanwadau a’ch profiad fel artist symudol.
- Eich profiad o rannu eich ymarfer gydag eraill.
- Beth yw eich cysylltiad i themâu’r prosiect yma; efallai eich corff, hunaniaeth rhyw, neu deimladau o fod yn “tramorwr”. Neu’r tri!
- Fideo byr yn dangos eich ymarfer – unrhyw fideo sy’n dangos chi’n gweithio.
Awgrymwn dylai nifer y geiriau bod tua 500 gair neu 3 munud o recordio ond dwi’n deall all cyfyngiadau fel hyn amharu ar gyrchiad, felly ceisiwch weithio i’r cyfyngiadau ond os dydych chi ddim gallu, gyd dwi’n ofyn yw i chi ddim i gymryd y mic.
Mae natur y rôl yma yn hynod o lifyddol a dwi’n edrych ymlaen ato fod yn hyblyg wrth ymateb i’r ceisiwr ni’n dewis. Os yr ydych yn meddwl eich bod chi’n medru ateb y briff, rydw i’n annog yn gryf i chi ceisio!
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn ceisio, cysylltwch gyda fi a gofynnwch.