Rydym yn awyddus i sicrhau bod pob dosbarth yn cael profiadau unigryw o wahanol fathau o gelf, wedi’u seilio ar llais, hunaniaeth a hanes ein hardal. Bydd y gweithgareddau hyn yn annog creadigrwydd, cysylltiad â’n cymuned, ac yn dathlu diwylliant lleol.
Os oes gennych syniadau neu hoffech gyfrannu, cysylltwch â’r ysgol!
Beth fyddwch yn ei wneud?
- Cydweithio â disgyblion i ddatblygu syniadau creadigol.
- Arwain gweithdai ysbrydoledig i ymgysylltu â phlant o wahanol oedrannau.
- Creu gwaith celf terfynol i’w arddangos yn yr ysgol.
Pwy ydym yn chwilio amdano?
- Artist profiadol gyda diddordeb mewn addysg a chydweithio.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu gweithio gyda phlant.
- Profiad mewn creu gwaith celf cyhoeddus neu brosiectau cymunedol yn fantais.
Manylion y cyfle:
- Lleoliad: Ysgol Glan Morfa
- Hyd y prosiect: [6 diwrnod - diwrnod yr un gyda disgyblion blynyddoedd 1-6) £250 y diwrnod.
- Tâl: £1500 (Cyfanswm)
Sut i wneud cais? Anfonwch:
- CV byr
- Enghreifftiau o’ch gwaith
- Datganiad byr (pam rydych chi’n addas ar gyfer y prosiect a beth allwch gynnig)
- meilir.tomos@Cardiff.gov.uk
Dyddiad cau: 12/12/2025