Rydyn ni’n recriwtio Artist Dawns Cynorthwyol (ADA) llawrydd i gefnogi rhaglen Iechyd Da-wns! wythnosol newydd sy’n dechrau ddydd Mercher 30ain Ebrill, 10.00 – 12.00 am 26 wythnos yn Abertawe.
Dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb: 9am ddydd Llun 31ain Mawrth 2025
Iechyd Da-wns! / Dance to Health (https://dancetohealth.org/)yw’r rhaglen genedlaethol lwyddiannus ar gyfer atal cwympiadau sy’n defnyddio dawns creadigol i leihau cwympiadau ymhlith pobl hŷn.
Fel yr artist dawns cynorthwyol, byddwch yn cefnogi’r artist dawns arweiniol drwy gofrestru cyfranogwyr, dangos addasiadau fel bod pobl yn gallu gwneud fersiwn wrth sefyll, fersiwn â chymorth a fersiwn wrth eistedd o ddeunydd yn y dosbarth, hwyluso amser cymdeithasol, a helpu i gynnal awyrgylch diogel a phleserus i bobl weithio ar eu cryfder, cydbwysedd a chreadigrwydd.
Yn ddelfrydol, mae artistiaid dawns cynorthwyol yn raddedigion dawns neu â'r lefel gyfatebol o brofiad galwedigaethol, gyda phwyslais ar ymarfer dawns cymunedol a/neu weithio gyda phoblogaethau hŷn.
Bydd gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, DBS, hyfforddiant cymorth cyntaf a diogelu. Rydyn ni’n croesawu dawnswyr o bob arddull, ethnigrwydd, diwylliant a rhywedd. Disgwyliwn i'r rhaglen hon ddenu lefel uchel o ddiddordeb oddi wrth y gymuned Tsieineaidd, ac felly rydyn ni’n croesawu'n arbennig ymgeiswyr sydd â Chantoneg yn iaith gyntaf neu’n ail iaith.
Cyfanswm ffi yr artist dawns cynorthwyol ar gyfer y rhaglen yw £975.00 a chostau teithio o 40c y filltir, hyd at £20 y sesiwn.
Rydyn ni’n croesawu, ar e-bost, ddatganiadau o ddiddordeb o ddim mwy na dwy ochr A4, yn manylu ar eich profiad a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl, a CV cysylltiedig. Gofynnwn hefyd am fideo byr 2-3 munud ohonoch chi’n symud drwy ymarfer dawns sy’n addas ar gyfer grŵp o gyfranogwyr hŷn.
Dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb: 9am ddydd Llun 31ain Mawrth 2025
Cyfweliad ar-lein: 2il Ebrill 2025
Rhaglen yn dechrau: 30ain Ebrill 2025
E-bostiwch eich datganiad o ddiddordeb, CV a dolen fideo at y ddwy isod:
-
Kayla Dougan Bowtell, Rheolwr Artistiaid Dawns
-
Charlotte Bridle, Rheolwr Rhaglen ac arweinydd gwirfoddol Cymru
Os oes angen deunyddiau arnoch chi mewn fformatau gwahanol neu os hoffech chi gyflwyno eich datganiadau o ddiddordeb mewn ffordd wahanol, rhowch wybod i ni.
Rôl Artist Dawns Cynorthwyol
Iechyd Da-wns! neu Dance to Health yw’r rhaglen ddawns genedlaethol arloesol ar gyfer atal cwympiadau ymhlith pobl hŷn. Cafodd Iechyd Da-wns! ei greu a’i reoli gan Aesop Arts and Society Ltd. Rydyn ni’n cyfuno egwyddorion atal cwympiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth gyda chreadigrwydd, mynegiant ac egni dawns. Caiff ein sesiynau eu harwain gan artistiaid dawns proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn mewn dulliau ymarfer i atal cwympiadau.
Nid oes angen ardystiad atal cwympiadau ar gyfer y rôl hon, gall unrhyw ymarferydd dawns cymunedol weithio fel artist dawns cynorthwyol, ac mae'n ffordd wych o fagu profiad o weithio gydag oedolion hŷn ac yn y sector celfyddydau ac iechyd sy’n datblygu’n gyflym.
Pryd a ble
Bydd artist dawns cynorthwyol yn mynychu’r sesiynau, o dan arweiniad artist dawns sydd ag ardystiad PSI, yr un pryd a’r un lle bob wythnos. Mae'r sesiynau hyn mewn lleoliadau cymunedol mewn ardaloedd lle rydyn ni wedi cael ein comisiynu i ddarparu'r gwasanaeth, neu ar-lein mewn sesiwn zoom.
Prif dasgau:
- Cynllunio a chyflwyno: Mae’r artist dawns sydd ag ardystiad PSI yn gyfrifol am gynllunio'r sesiynau a bydd yn eich arwain ar sut i gefnogi pob sesiwn. Efallai y byddwch weithiau'n cefnogi'r artist arweiniol drwy gynllunio elfennau o'r sesiynau gyda'ch gilydd neu gael cyfrifoldeb am grwpiau penodol o gyfranogwyr neu weithgareddau penodol o fewn y sesiwn.
- Arddangos gweithgareddau: Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddangos opsiynau eistedd o’r prif weithgaredd ar gyfer cyfranogwyr sy’n symud llai neu i efelychu cyfarwyddiadau’r artistiaid dawns arweiniol mewn ystafell fawr er mwyn i bawb sy’n cymryd rhan allu gweld.
- Diogelwch cyfranogwyr: Fel pâr ychwanegol o lygaid a chlustiau ar gyfer yr Artist Dawns, byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth am symud i adnabod cyfranogwyr sydd angen cymorth. Gallwch gynnig atchweliadau neu weithgareddau wedi'u haddasu, rhoi adborth ar dechneg a sicrhau bod pobl sy’n cymryd rhan yn ddiogel ac o fewn eu gallu tra'n dal i gael eu herio.
- Datblygu creadigrwydd: ysgogi ac annog archwilio creadigol ymhlith y cyfranogwyr a allai fod yn newydd iawn i’r byd dawns creadigol. Gwella'r gofod diogel a chroesawgar gyda'r artist dawns a gwirfoddolwyr sy'n helpu hunan-archwilio.
- Cymorth cymdeithasol a gweinyddol: cefnogi'r artist dawns i gofrestru cyfranogwyr ac ymgymryd â'r rôl hon unwaith y byddwch yn hyderus, i gefnogi cyfranogwyr i lenwi ffurflenni aelodaeth ar-lein neu ar bapur. Cefnogi’r artist dawns i gasglu a mewnbynnu data prawf TUG, ofn cwympo, profion Dim Cwympiadau, cefnogi cyfranogwyr i ddeall y gwaith cartref a osodwyd a chwblhau'r arolwg lles meddyliol.
Sgiliau/Profiad Angenrheidiol
- Wedi graddio mewn dawns neu rywun sydd â’r lefel gyfatebol o brofiad galwedigaethol, gyda phwyslais ar ymarfer dawns cymunedol.
- Mae angen i chi fod yn ddeallus, yn amyneddgar ac yn empathetig, i allu cefnogi cyfranogwyr y grŵp sydd angen cymorth ac anogaeth ychwanegol yn ystod sesiynau.
- Hyblygrwydd, creadigrwydd a mentergarwch. Parodrwydd i helpu drwy ‘gyfrannu’. Mae agwedd frwdfrydig a sgiliau rhyngbersonol da yn gaffaeliad.
- Byddwch yn gweithio gyda’r artistiaid dawns arweiniol a gwirfoddolwyr, felly mae'r gallu i weithio'n dda fel aelod o dîm yn hanfodol.
- Diddordeb mewn hyfforddiant pellach. Ar ôl magu’r profiad a'r sgiliau angenrheidiol, gallai fod yn bosib hyfforddi ymhellach i ddod yn Artist Dawns arweiniol drwy gwblhau hyfforddiant PSI.
Gwybodaeth Gyffredinol
- Mae artistiaid dawns cynorthwyol yn derbyn sesiwn gynefino lawn, gan gynnwys hyfforddiant PSI/FaME ac Otago, y rhaglenni a werthuswyd yn wyddonol sy'n sail i Iechyd Da-wns! Caiff ei gyflwyno drwy Teams ac mae'n cynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, y ddamcaniaeth y tu ôl i ddefnyddio dawns wrth atal cwympiadau ac agweddau ymarferol ar sut rydyn ni’n darparu ein gwasanaeth.
- Byddwch yn derbyn cefnogaeth barhaus yn eich rôl wrth yr Artist Dawns sy’n arwain y rhaglen ac wrth Reolwyr Rhaglen Aesop.