Mae Rubicon Dance, sefydliad dawns gymunedol ac elusen gofrestredig wedi’i lleoli yn Adamsdown, Caerdydd, wedi cofrestru i "Let's Dance" sy'n ymgyrch ledled y DU, wedi’i harwain gan Angela Rippon CBE gyda’r nod o annog y genedl i symud a dawnsio ar Ddydd Sul 2 Mawrth 2025.

Mae gan Angela gefnogaeth Yr Athro Chris Whitty, Sefydliad Iechyd y Byd a llu o enwogion gan gynnwys y Fonesig Arlene Phillips fel rhan o "Let's Dance". Ei bwriad drwy gydol yr ymgyrch hon yw tynnu sylw at, a hyrwyddo buddion meddygol ac iechyd dawns i feddygon teulu, doctoriaid, y wasg a’r cyhoedd yn gyffredinol. 

Lansiodd Angela "Let's Dance" ar The One Show y BBC ar Ddydd Gwener 7 Chwefror. Rydyn ni mor falch i ddweud bod Rubicon Dance yn rhan o’r rhaglen hon, ac yn gallu dangos ein gwaith gyda phobl sy’n byw gyda, neu’n cefnogi person gyda Parkinson's yn ogystal â goroeswyr Strôc. 

Roedden ni’n llawn cyffro i gael ymweliad gan Angela Rippon a chynhyrchydd y gyfres a’r tîm o The One Show i Rubicon bythefnos yn ôl!! Ymunodd Angela â’n sesiwn Dawnsio Actif gyda Parkinson's wedi’i arwain gan Sophie Lorimer. 

Cafodd Anwen Davies, sy’n arwain ein sesiynau ar gyfer goroeswyr Strôc ar Zoom, hefyd ei ffilmio yn arwain sesiwn. Hefyd gyrrodd Angela a chriw ffilmio The One Show i gartref un o’n cyfranogwyr i’w gyfweld am sut mae’n elwa o’i sesiynau dawns gyda Rubicon ac roedd y cyfweliad hwn hefyd yn cael ei ddangos ar The One Show.

Rydyn ni hefyd mor falch i allu tynnu sylw at y math hwn o waith y mae Rubicon wedi bod yn ei wneud dros gymaint o flynyddoedd ac rydyn ni mor ddiolchgar i Angela Rippon a The One Show am ddewis i ddod i ymweld â ni yn Rubicon Dance. 

Let's Dance: Neges bersonol gan Sefydlydd yr ymgyrch Angela Rippon - WSA

Let's Dance! Gael y genedl i ddawnsio gydag Angela Rippon CBE

https://youtu.be/HJhvK4AWsj8?si=3zQNkVu77BBP0x0M (Y Fonesig Arlene Phillips)

Yn unol â themâu Let’s Dance, ar Ddydd Sul 2 Mawrth 2025 mae Rubicon yn cynnig sesiynau dawns un awr AM DDIM i blant a phobl ifanc, pobl hŷn, CYN-FYFYRWYR ein cwrs BTEC/Llawn amser sy’n dathlu 40 mlynedd yn 2026 a phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau. Byddwn ni hefyd yn arwain sesiwn dawns “diolch” i rai o dîm Rubicon Wales Facilities Management sydd wedi cefnogi ein sesiynau mewn cartref gofal ac ysbyty yng Nghaerdydd ers 2023.

Ar Ddydd Sul 2 Mawrth byddwn ni hefyd yn dangos sawl ffilm fer sy’n dogfennu ein gwaith mewn ysbytai, gyda goroeswyr Strôc, gydag oedolion hŷn a dawnswyr ifainc. Os ydych chi ar gael, dewch i Rubicon rhwng 10.00 a 3.00 oherwydd bydden ni wrth ein bodd i’ch gweld chi!

Am fanylion pellach am gyfraniad Rubicon yn Let's Dance anfonwch e-bost at tracey@rubicondance.co.uk

Llun gan: Tracey Brown, Rheolwr Rhanddeiliaid, Rubicon Dance