Heddiw mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor yr ail rownd ar gyfer cyflwyno cais i’r Gronfa Ymateb Brys ar gyfer Unigolion. Mae'r gronfa yn rhan bwysig o gefnogaeth gyffredinol y Cyngor i’r gymuned greadigol yn ystod coronafeirws.

Mae’r ail gyfnod ar gyfer cyflwyno cais i’r gronfa yn dod ychydig dros wythnos ar ôl i’r rownd gyntaf gau, gyda dros 280 o artistiaid yn ymgeisio. Bydd y rownd nesaf hon yn cau i geisiadau am 5pm ar 6ed Mai.

Mae'r Gronfa Ymateb Brys i Unigolion ar gyfer ymarferwyr creadigol llawrydd sy'n profi caledi ariannol neu'n colli incwm oherwydd coronafeirws. Mae hwn yn arian brys yn y tymor byr i alluogi unigolion i oroesi'n ariannol ac yn greadigol.

Mae'r gronfa’n helpu unigolion i ddiwallu eu hanghenion ariannol mwyaf tra byddant yn chwilio am gymorth posibl o'r Llywodraeth neu am ffyrdd eraill o gynnal eu gweithgarwch.

Mae'r gronfa ymateb brys yn elfen o gronfa Wytnwch y Celfyddydau a sefydlodd y Cyngor gyda Llywodraeth Cymru gydag arian o'r Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan Dŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands. Gwerth y gronfa wytnwch i’r celfyddydau yn ei chrynswth yw £7.5 miliwn.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am roi'r cyfle gorau i artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol oroesi coronafeirws a darparu cefnogaeth iddynt ymsefydlogi a chynnal eu busnes yn ystod y misoedd nesaf.

“Ein gobaith yw y bydd y pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig yn cynorthwyo’r llu o unigolion a gweithwyr creadigol llawrydd sy’n brwydro yn erbyn caledi mawr oherwydd coronafeirws."