Yn ystod yr hydref, roedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi rhoi o’r newydd arian o Gronfa Loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles i 10 prosiect.
Yn eu plith mae celf sy'n seiliedig ar natur i gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, sesiynau canu i bobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson a'u teuluoedd, gweithdai gyda beirdd cenedlaethol Cymru i fenywod sy'n byw gyda salwch, a dosbarthiadau dawns a chelf i blant sy'n byw mewn poen barhaus.
Cafodd y gronfa ei lansio yn 2021 i ddatblygu partneriaethau ymhlith sectorau’r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol ac yn y trydydd sector. Mae’n cefnogi prosiectau creadigol ledled Cymru sy'n hybu iechyd a lles. Yn yr hydref cafodd 10 partneriaeth arian i brofi neu dyfu eu prosiectau. Y flaenoriaeth oedd prosiectau celfyddydol creadigol sy'n cysylltu pobl â natur, cefnogi iechyd meddwl, herio anghydraddoldeb iechyd, cadw pobl yn gorfforol weithgar a hyrwyddo lles staff.
Meddai Liz Clarke, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau ac Iechyd, Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym yn falch o'r gwaith creadigol sy'n digwydd ledled y wlad i gefnogi gofal sy’n atal afiechyd a thrin ac adsefydlu mewn achosion o salwch y corff a’r meddwl. Mae'r holl brosiectau’n cynrychioli partneriaethau gwych ar draws y sector sy'n creu prosiectau creadigol ledled Cymru."
Mae grym y celfyddydau a chreadigrwydd i drawsnewid a gwella ein hiechyd a'n bywyd yn hysbys erbyn hyn. Mae llawer o'r prosiectau yn dod â'r celfyddydau, iechyd a'n hamgylchedd naturiol ynghyd. Maent yn esiamplau o sut y mae’r celfyddydau’n helpu i wella problemau iechyd dybryd, meithrin gwytnwch a dod â phobl at ei gilydd.
Ymhlith y prosiectau roedd:
- Partneriaeth Ffynnon Amethyst: cefnogi pobl 11-25 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl yng nghefn gwlad Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro drwy fentrau gwytnwch celfyddydol a chymunedol
- Oriel Davies: cydweithio â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac Agor y Drenewydd i archwilio manteision y celfyddydau i iechyd meddwl sy'n seiliedig ar natur i oedolion gogledd Powys
- Llwyth Celf ac Enaid: cyfuno arferion creadigol sy'n seiliedig ar natur â phartneriaid i gefnogi oedolion sydd â phryderon am eu hiechyd meddwl a phobl ifanc ar restrau CAMHS y GIG yn y Gogledd. Dyma ddatblygu prosiect a gafodd arian o’r blaen
- Corau er Daioni: partneru gyda Parkinson's UK Cymru i dreialu sesiynau canu grŵp ledled Cymru, gyda'r nod o wella rheoli llais a lles emosiynol pobl â’r clefyd a'u teuluoedd
- Dawnsio i Symud: Bale Cymru yn cydweithio â sefydliadau iechyd i gefnogi pobl ifanc â chyflyrau meddygol a'u teuluoedd drwy ddawns. Dyma ddatblygu prosiect a gafodd arian o’r blaen
- Gwreiddiau Creadigol: cynnwys pobl sydd mewn unedau diogel neu’n camddefnyddio sylweddau mewn gweithgareddau creadigol i wella lles eu meddwl mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Mileniwm Cymru
- Llenyddiaeth Cymru: datblygu blodeugerdd a gweithdai barddonol dwyieithog i amlygu iechyd menywod a chefnogi gwelliannau iddynt
- Llwybr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: creu llwybr cyfeirio celfyddydol yng Ngheredigion gan ddatblygu model cymdeithasol o iechyd a lles
- Peilot Celfyddydau Gwynedd: profi effeithiolrwydd y celfyddydau fel ymyrraeth ataliol i bobl 16-25 oed mewn partneriaeth â’r Frân Wen, Prifysgol Bangor a Meddygfa Bodnant
- Rhannu Gobaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: rhoi mannau creadigol i staff i wella a chysylltu ag eraill drwy weithgarwch celfyddydol
Mae cronfa’r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn derbyn ceisiadau newydd tan 22 Ionawr 2025.
Delwedd gan: Tim Arterbury