Cefndir

2025 yw Blwyddyn Llywodraeth Cymru Japan

Cymru a Japan 2025 i ddathlu "cysylltiadau dwfn" y ddwy wlad | LLYW.CYMRU 

Wales Japan links | Wales.com 

 

Mae’r celfyddydau, diwylliant a llesiant wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu cysylltiadau cyfoethog a diwylliannol rhwng Cymru a Japan ac maent yn ran allweddol o ffocws y flwyddyn. 

Fel rhan o’n cyfraniad i’r rhaglen, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd mynegi diddordeb am gyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau a fydd yn digwydd rhwng Cymru a Japan rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025. 

Nod y cyfle ariannu hwn yw:   

- cyfoethogi ac ehangu partneriaethau a chydweithrediadau celfyddydol presennol rhwng Cymru a Japan 

- datblygu cysylltiadau a chydweithrediadau artistig a diwylliannol newydd a fydd yn meithrin perthnasoedd cynaliadwy hirdymor rhwng artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac ymarferwyr diwylliannol 

Mae'n agored i unigolion a sefydliadau sy'n gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru. 

 

Cyllid ar gael:  

Mae gennym gyfanswm o £150,000 ar gael.  

Gallwch wneud cais am gyllid rhwng £1,000 a £40,000 

 

Haen 1: rhwng £1,000 a £10,000 

Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwneud 8-10 dyfarniad fach. 

 

Haen 2: rhwng £10,000 a hyd at £40,000 

Rydym yn rhagweld y byddwn yn gwneud 1-2 ddyfarniad mawr o hyd at £40,000 yr un. 

 

Meini Prawf Cymhwysedd:  

I fod yn gymwys i gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb, bydd rhaid: 

  1. Creu cynllun ar gyfer prosiect sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau neu ymweliad strwythuredig â phartner yn Japan  

  1. Cael partner yn Japan 

  1. Gallu cyflawni’r gweithgaredd arfaethedig yn Japan, yng Nghymru neu’n ddigidol rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025 

  1. Eich bod yn ymarferydd celfyddydau unigol neu'n sefydliad celfyddydol wedi'i leoli yng Nghymru 

 

Blaenoriaethau a meini prawf asesu:   

Byddwn yn asesu ceisiadau ar y sail canlynol:  

  • Cryfder eich cynnig fel cydweithrediad â phartner yn Japan lle mae naill ai perthynas artistig weithredol a chydfuddiannol eisoes yn bodoli neu ymrwymiad i brofi a datblygu perthynas greadigol  

  • Y gallu i gyflawni'r weithgaredd rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025  

  • Sut y byddwch yn gwreiddio egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac ymdeimlad o gyfrifoldeb byd-eang wrth gynllunio a chyflawni'r gweithgaredd arfaethedig 

Bydd angen i chi hefyd ddangos y bydd y gweithgaredd celfyddydol yn cyd-fynd ag o leiaf un (ond nid o reidrwydd pob un) o’r blaenoriaethau canlynol:  

  • Canolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau artistig sy’n fuddiol i'r ddwy ochr rhwng Cymru a Japan gan gynnwys cyfnodau preswyl a chyfnewid diwylliannol 

  • Canolbwyntio ar gyflwyno gwaith artistig a fydd yn cysylltu cynulleidfaoedd yn Japan yn ystyrlon â Chymru neu yng Nghymru â Japan  

  • Canolbwyntio ar iaith, gall gynnwys ieithoedd lleiafrifol neu frodorol ac amlieithrwydd 

  • Canolbwyntio ar y celfyddydau, iechyd a lles 

  • Archwiliad o faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd a chyfrifoldeb byd-eang trwy gydweithio artistig ac sy’n cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 

  • Gweithgarwch yn cael ei gynnal yn Himeji, Kitakyushu, Oita, Osaka neu Hokkaido – ardaloedd y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio’n benodol arnynt yn ystod Blwyddyn Cymru a Japan 2025 

 

Pwy all wneud cais:  

Mae'r gronfa ar agor i unigolion a sefydliadau sy'n gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru. 

 

Sut i wneud cais:   

  • Cwblhewch y ffurflen  Mynegiant o Diddordeb fer a’i dychwelyd i info@wai.org.uk erbyn 5 Mawrth 2025 wedi’i nodi ‘Datganiad o Ddiddordeb Cronfa Ddiwylliant Japan’. 

 

Beth sy'n digwydd nesaf:  

Bydd eich mynegiant o ddiddordeb yn cael ei adolygu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru, gyda mewnbwn gan dimau Cymru a Japan Llywodraeth Cymru a Chyngor Prydeinig Japan. Byddwn yn defnyddio'r blaenoriaethau a'r meini prawf a nodir fel sail i wneud ein penderfyniadau.   

Os byddwch yn derbyn cynnig mewn egwyddor, fe'ch gwahoddir i ddatblygu eich cynllun gweithgaredd, amserlen a chyllideb ymhellach cyn i ni wneud y cynnig ariannu terfynol. 

 

Amserlen:  

  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb: 5 Mawrth 2025 

  • Hysbysiad o grantiau mewn egwyddor: erbyn 14 Mawrth 2025 

  • Ar gyfer grantiau mewn egwyddor - cyflwyno cyllideb fanwl, cynllun gweithgaredd ac amserlen: erbyn 25 Mawrth 2025 

  • Hysbysiad o gynnig cyllid terfynol: Mawrth/Ebrill 2025 
Cymorth

Cwestiynau:  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â info@wai.org.uk  

Os hoffech gyflwyno'r MODd mewn fformat arall, rhowch wybod i ni.