Yn sgil trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am sefyllfa ariannol anodd ein sector celfyddydol, rydym wedi cael arian i ddiogelu swyddi a magu gwytnwch yn y sector.
Rydym yn gwybod bod yr angen yn un brys. Felly mae'n bwysig inni allu rhoi’r arian lle mae ei angen fwyaf cyn gynted â phosibl.
Mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod y galw yn debygol o fod yn llawer uwch na’r arian sydd ar gael. Felly rydym wedi datblygu proses ymgeisio sy’n canolbwyntio ar y rhai mwyaf anghenus.
Pwy sy'n gallu ymgeisio?
I ymgeisio, rhaid bodloni'r meini prawf canlynol am fod yn gymwys:
- rhaid i’ch sefydliad fod â chyfansoddiad cyfreithiol nad yw'n gyfyngedig gan gyfranddaliadau ac sy'n gweithredu ar sail nid er elw, er enghraifft:
- Cwmni Cyfyngedig drwy Warant
- Elusen gofrestredig (gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol)
- Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Cwmni Buddiannau Cymunedol
- Cymdeithas Anghorfforedig
- Awdurdod Lleol, Prifysgol, Bwrdd Iechyd neu Gorff Cyhoeddus arall
Os nad yw math eich sefydliad ar y rhestr, cysylltwch â ni: cefnogibusnes@celf.cymru cyn ymgeisio.
Dyma rai o’r sefydliadau na allant ymgeisio (ymhlith eraill):
- Ysgolion
- Adrannau o'r llywodraeth
- Sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig
- Sefydliadau nad ydynt yn gyfredol â gofynion adrodd o ran grantiau eraill gennym
Ni allwn ariannu sefydliadau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau na lle gellir dosbarthu unrhyw elw i aelodau/cyfranddalwyr.
Amserlen
Ceisiadau ar agor – 16 Hydref 2024
Dyddiad cau ymgeisio – hanner dydd ar 28 Hydref 2024
Gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau, gobeithio rhoi gwybod ichi am ein penderfyniadau erbyn canol Rhagfyr.
Rhaid ichi siarad gyda ni cyntaf ynglŷn manylion eich prosiect i gael y ddolen i'r ffurflen gais.
Darllenwch y canllawiau i benderfynu os ydy eich prosiect yn iawn i’r gronfa yma.
Os ydy, cysylltwch gyda ni ar cymorthbusnes@celf.cymru gydag amlinelliad byr o'ch prosiect, gan gadarnhau’r swm rydych am ymgeisio am.