Dafydd Rhys, Prif Weithredwr

Mae Dafydd wedi cael gyrfa hir yn y diwydiant teledu fel cynhyrchydd cynnwys a darlledwr. Dechreuodd ei yrfa gyda HTV Cymru cyn symud i'r sector annibynol. Mae hefyd wedi cael swyddi fel Comisiynydd Golygyddol yn S4C, Cyfarwyddwr Cynnwys y sianel tan Hydref 2016, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydol Aberystwyth a Chadeirydd AM - ap digidol y sector gelfyddydol yng Nghymru 2021/22.

Dechreuodd yn y swydd hon yn Hydref 2022.

 

Diane Hebb, Cyfarwyddwr (Ymgysylltu â’r Celfyddydau)

Diane Hebb yw Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n datblygu, rheoli a gweithredu strategaethau a rhaglenni gyda’r nod o gael rhagor o bobl i greu a mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

Ar ôl gwneud gradd mewn dawns, symudodd i Gymru i ymuno â chwmni dawns mewn addysg. Wedyn aeth yn fywiogydd a chydlynydd dawns gyda Chelfyddydau Cymunedol y Rhondda.

Ymunodd â Chyngor Celfyddydau Cymru ym 1992 ei Swyddog Dawns. Yma mae wedi ymgymryd â llawer o gyfrifoldebau:

  • arwain yn strategol ym maes Cynhwysiant a Chyfranogiad
  • drafftio strategaeth gydraddoldeb gyntaf y Cyngor
  • cyd-ysgrifennu strategaeth gyntaf y Cyngor i bobl ifanc a’i gweithredu

Mae ei thîm presennol yn gweithio mewn sawl maes, gan gynnwys gwaith comisiwn â'r nod o ddatblygu ymgysylltiad a chydraddoldeb. Ei phrif waith yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnig rhaglen uchelgeisiol ac arloesol, Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, sy’n i gefnogi ysgolion i ymbaratoi at y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Hi yw arweinydd strategol y Cyngor ym maes Adnoddau Dynol ac mae hefyd yn gyfrifol am:

  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor
  • datblygu cynulleidfaoedd
  • datblygu lleoliadau cyflwyno Cymru
  • y celfyddydau cyfranogol a chymunedol
  • y celfyddydau a phobl ifanc
  • dysgu creadigol
  • teithio cymunedol
  • Noson Allan

Mae’n angerddol am ymgysylltu â'r gymuned a'r effaith drawsnewidiol y gall y celfyddydau ei chael ar bobl a chymunedau.

 

Lorna Virgo, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Busnes

Dechreuodd Lorna ar ei gyrfa gyda PwC Caerdydd a hithau newydd raddio yn 2003. Yno bu’n canolbwyntio ar archwiliadau yn y sector preifat ac am 3 blynedd aeth ar secondiad i  swyddfa Brisbane hefyd. Yn ôl yng Nghaerdydd, bu'n rheoli a chynyddu’r tîm paratoi cyfrifon newydd. 

Yn 2014 ymadawodd â PwC i fod yn Arweinydd Strategol gyda’r elusen gydraddoldeb i fenywod, Chwarae Teg. Am 3 blynedd bu’n arwain y tîm cyllid a chorfforaethol. Yn ddiweddar bu’n gweithio ar lefel uwch gyda Heddlu Gwent ac yn Gyfarwyddwr Cyllid yn Amber, cwmni ymgynghori ar faterion sero net.

Bu hefyd yn gwirfoddoli a phwyllgora gan gynnwys:
•    Cadeirydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen
•    aelod o Bwyllgor Archwilio a Pherygl POBL
•    sefydlu banc bwyd yn ei hardal leol - Griffithstown, Pont-y-pŵl