Yn 2003 cyhoeddodd Cerith Wyn Evans Gymru yn Fenis yn gofiadwy ddigon drwy daflunio chwilolau i'r awyr o'r Guidecca lle roedd Cymru wedi arddangos mewn pedwar Biennale olynol. Yn 2011 ail-leolwyd Cymru yn Fenis i Santa Maria Ausiliatrice hanesyddol yn ardal y Castell sydd ar ganol popeth rhwng Gerddi'r Castell a'r Arfdy. Atynnodd arddangosfa Cymru 3,298 o ymwelwyr yn ystod wythnos y rhagolwg yn unig a'r nifer uchaf o ymwelwyr (30,000) yn chwe mis wedyn y Beinnale.

Mae presenoldeb Cymru yn y Biennale yn gyfle i arddangos celfyddydau gweledol Cymru ar y llwyfan rhyngwladol sydd â'r bri mwyaf yn y byd. Mae buddion a chyfleoedd yn cael eu hadlewyrchu'n ôl inni yng Nghymru drwy gomisiynu strategol arddangosfa Cymru yn Fenis a'r rhaglenni sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad; gan gynnwys Goruchwyliwr a Mwy, Bwrsarïau Teithio a ddarperir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, adnoddau addysgiadol yn ogystal â sgyrsiau, digwyddiadau, cysylltiadau a, lle bo'n briodol, ail-lwyfannu'r arddangosfa a gynhyrchwyd ar gyfer y Biennale yma yng Nghymru.

Mae Biennale Fenis yn hanfodol bwysig i broffil, enw da a gyrfaoedd yr artistiaid sy'n cael eu dewis i gynrychioli Cymru yno ac i ddelwedd Cymru yn wlad sy'n ceisio hyrwyddo ei diwylliant cyfoes ledled y byd gan nodweddu proffil diwylliannol Cymru â chelfyddyd o safon. Mae'r prosiect hefyd yn darparu profiad a chyfleoedd rhyngwladol i adeiladu perthnasau sy'n hanfodol i'r sefydliadau a gomisiynir i guradu a darparu'r arddangosfa yn ogystal â'r ymgyfranogwyr o'r rhaglen ddatblygu.

Mae arddangosfa Cymru yn cael ei chomisiynu a'i rheoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda cefnogaeth grant mewn cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Mae'r bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru yn enghraifft ardderchog o sut yr ydym yn gweithio'n agos i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru yn genedl ddiwylliannol fywiog. Mewn gwlad ddatganoledig ac ar adeg o gyni, mae'n bwysig iawn bod creadigrwydd Cymru yn parhau i ymddangos ar lwyfan y byd.