Mae Cymru yn Fenis yn falch iawn o gyflwyno tîm 18 o artistiaid, curaduron a myfyrwyr sy'n paratoi i deithio i Fenis i gefnogi'r artist Sean Edwards ar gyfer y 58ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol, La Biennale di Venezia fel Goruchwylwyr Arbennig.

Ein prif oruchwylwyr, wedi eu dewis drwy enwebiadau gan sefydliadau celfyddydol o bob cwr o Gymru, yw Rachel Dunlop (Peak), Paul Heppell (Tŷ Pawb), Carlota Norbrega (g39), ac Esyllt Lewis (Yr Eisteddfod Genedlaethol).

Dewiswyd Caitlin Davies, Claire Francis, Laura Edmunds, Ffion Pritchard, Rebeca Hardy, Dylan Edwards, Jenny Cashmore, drwy alwad agored.

Dewisiwyd tîm myfyrwyr hefyd, a benodwyd gyda Phartneriaid Prifysgol. Dyma nhw:

Prifysgol Metropolitan Caerdydd:
Gwenllian Llwyd, Charlotte Grayland a Heledd Evans.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
Melissa Rodrigues ac Aimee Leigh James.

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:
Hannah Doran a Zoe Harty.

Cefndir

Mae Goruchwylio Arbennig yn cynnig cyfleodd datblygu proffesiynol pwysig drwy roi cyfle I guraduron ac artistiaid sy'n gweithio yng nghymru I gael profi Biennale Fenis. Mae'n cael ei reoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Thŷ Pawb. Maent wedi comisiynu g39 yng Nghaerdydd i gefnogi rhaglen hyfforddi a mentora sy'n cynnig gyfrifol am adolygiad gyda artistiaid, hygyrchedd i rwydweithiau creadigol, trafod a rhannu syniadau yn y maes yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CASW) mae'r rhaglen wedi'i gwella ymhellach i alluogi'r tîm o oruchwylwyr i gael mynediad at gyfleoedd mentora a rhwydweithio ledled Cymru.

Hyd yn hyn

Yn ystod y sesiynau hyfforddi yn Nhŷ Pawb yn mis Chwefror eleni , cafodd y grŵp gyfle gwerthfawr i gwrdd â Sean Edwards, sy’n cynrychioli Cymru yn Fenis wrth gynnal arddangosfa yn yr hen gwfaint hardd, Santa Maria Ausiliatrice. Bydd yn arddangos corff mawr newydd o waith yn y cyfnod 11 Mai-24 Tachwedd 2019. Bydd yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn dosbarth cymdeithasol a phethau pob dydd a dylanwad ei fagwraeth ar stad cyngor yng Nghaerdydd yn y 1980au. Cyfarfu'r tîm hefyd â Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol, Tŷ Pawb, y curadur, Marie-Anne McQuay yn ogystal â'r Curadur Cynorthwyol Louise Hobson, a gymerodd ran yn Goruchwylwyr Arbennig 2015.

La Biennale di Venezia

Bydd y tim o artistiaid, curaduron, addysgwyr, awduron a myfyrwyr yn chwarae rol bwysig yn cefnogi Sean Edwards yn ei gyflwyniad Cymru yn Fenis. Byddant yn croesawu ymwelwyr, cyflwyno'r Gwaith, gofalu am yr arddangosfa a bod yn llysgenhadon ar gyfer celf weledol Cymru. Bydd pob un yn treulio o leiaf mis yn Fenis ac fel rhan o raglan fentora, bydd cefnogaeth ar gael iddynt gynnal ymchwil neu greu eu prosiectau creadigol eu hunain.

Bydd yn adeiladu ar lwyddiant 2017 pan oeddem ni’n gweithio gydag Ysgol Celf a Dylunio, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Eleni bydd y bartneriaeth hefyd yn cynnwys Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod a Dewi Sant ac Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Mewn datblygiad arall ar gyfer 2019, cafodd sefydliadau celf weledol Cymru gyfle i enwebu unigolion sy'n gweithhio neu'n gwirfoddoli i fod yn Uwch Oruchwylwyr. Roedd, Peak, g39, Ty Pawb a'r Eisteddfod Genedlaethol yn llwyddiannus gyda'u cynigion nhw.