Bydd y cwmni dawns amlwg o Gymru, Jones y Ddawns, a sefydlwyd gan y coreograffydd Gwyn Emberton, sydd o Drefaldwyn yn wreiddiol, yn rhedeg ysgol ddawns haf arbennig fel rhan o’r prosiect Jones Bach. Fe’i cynhelir yn Neuadd Gregynog ger y Drenewydd a bydd yn dathlu diwedd blwyddyn gyntaf y prosiect hwn sydd bellach yn un blynyddol ac sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i bobl ifanc ym Mhowys. Bydd yr wythnos yn cael ei chynnal yn Neuadd Gregynog diolch i gyllid ychwanegol a rannwyd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Cychwynnwyd Jones Bach gan Gwyn Emberton, fel ysgol haf flynyddol yn wreiddiol gyda’r Hafren. Ers y llynedd mae’r cwmni wedi ehangu’r prosiect i redeg yn ystod yr holl wyliau hanner tymor gan gyrraedd penllanw yn yr ysgol haf arbennig hon. Yn ystod yr wythnos bydd y bobl ifanc yn gweithio gyda choreograffydd o Gymru sy'n brysur wneud enw i'w hunan yn y maes, Rebecca Long. Dewiswyd Rebecca gan y dawnswyr ifanc mewn clyweliad/cyfweliad ym Mai eleni. Roedd tri choreograffydd amlwg arall o Gymru ac Awstralia hefyd yn y ras. Gyda’i gilydd, a gyda Rebecca, byddant yn creu gwaith newydd gwreiddiol y byddant yn ei berfformio yng ngerddi Neuadd Gregynog ar ddiwedd yr wythnos, a byddant yn ogystal yn dysgu arddulliau dawns newydd a dod i adnabod ffrindiau newydd.

Mae Jones Bach, ynghyd â’r chwaer brosiect, Quiet Beats, y mae Jones y Ddawns yn ei redeg yng Nghaerdydd i bobl ifanc Fyddar, yn ffurfio Cwmni Dawns Ifanc Jones y Ddawns. Cychwynnwyd y ddau brosiect oherwydd dymuniad Gwyn Emberton i greu cyfleoedd eithriadol i bobl ifanc, yn arbennig y rhai nad ydynt yn cael mynediad at gyfleoedd o’r fath i ffynnu mewn dawns, trwy weithio gyda choreograffwyr rhyngwladol a chartref ac i ddatblygu yn gorfforol a meddyliol.

“Mae cynlluniau dawns ieuenctid Jones y Ddawns yn rhan o’n nodau a’n hymrwymiad parhaus i ddatblygu dawns yng Nghymru trwy greu cyfleoedd i bobl ifanc a all feddwl nad yw dawns iddyn nhw neu sydd heb gael y cyfle i ddawnsio o’r blaen. Dros y deng mlynedd diwethaf, fel Jones y Ddawns, rydym wedi bod yn datblygu ein gwybodaeth a’n profiad wrth ddatblygu dawns o’r lefel sylfaenol i lefel broffesiynol, gydag ymrwymiad penodol i roi darpariaeth i gymunedau sy’n wynebu rhwystrau difrifol rhag cael mynediad at ddawns a rhannu eu harbenigedd gyda’r sector ehangach yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw trawsnewid pwy sy’n cael creu a phrofi dawns, gyda’r gobaith taw rhai o’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn Quiet Beats a Jones Bach fydd y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr o Gymru.”

Mae’r sesiynau’n rhedeg o 10am - 3pm bob dydd ac maent ar gyfer oedrannau 8-15 oed.

Mae’r lleoedd bron â mynd i gyd ond mae ychydig ar ôl ar gyfer y sesiynau yn hwyrach yn yr wythnos.

Mae bwrsariaethau ar gael i deuluoedd ar incwm is. Cysylltwch â’r cynhyrchydd Kama ar info_and_admin@jonesthedance.com i gael gwybod rhagor am hyn.

I archebu lle, ewch i:

https://www.jonesthedance.com/youngcompanybooking/jones-bach-summer-school

Neu cysylltwch â’r Swyddog Dawns Eli yn jonesbach@jonesthedance.com os ydych am gael dysgu rhagor.