Tra bod teithio’n rhyngwladol dal i fod yn bwnc ansicr ac yn sialens ar hyn o bryd, mae’n holl bwysig i artistiaid a phobl greadigol gallu barhau i gysylltu gyda’n cymdogion, cyd-weithwyr artistig a chynulleidfaoedd Ewropeaidd.

Ymunwch â Wybodfan Celf y DU a chynhyrchwyr ac artistiaid sydd â phrofiad rhyngwladol i drafod beth sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE, a sut mae pobl broffesiynol y DU yn gallu paratoi ar gyfer teithio ar draws Ewrop yn y dyfodol.

Fe glywch awgrymiadau, ymagweddau ac ystyriaethau ymarferol o gwmpas teithio’n rhyngwladol, ac hefyd am weithio yng ngwledydd tu fas i Ewrop. Byddwn yn edrych ar y mathau o logisteg sydd eu hangen er mwyn symud pobl a nwyddau fel rhan o daith. O’r 3 C sef CITES, ‘carnets’ a ‘cabotage’, i ddeall gofynion mynediad dros ffiniau, gwaith papur, a thrwyddedau gwaith. 

I fynychu, dilynwch y ddwy gam isod:
1. Cofrestwch ar gyfer Edinburgh Fringe Connect
2. Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad Gwybodfan Celf y DU

 

Marie Fol
Yn cyd-gadeirio'r digwyddiad, mae Marie Fol yn gynghorydd llawrydd a rheolwr diwylliannol wedi'i leoli yn Amsterdam, NL. Yn eiriolwr dros gydweithrediad diwylliannol rhyngwladol, mae Marie hefyd yn llywydd On the Move - y rhwydwaith rhyngwladol sy'n ymroddedig i symudedd diwylliannol.


Ania Obolewicz
Mae'r cyd-gadeirydd Ania Obolewicz yn gynhyrchydd creadigol wedi'i leoli yn Prague a Llundain. Mae hi’n arbenigo mewn cydweithrediadau rhyngwladol a chefnogaeth artistiaid, ac yn gynhyrchydd ar brosiectau celf ryngddisgyblaethol yn y DU ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu ac yn rhaglennu o fewn Artsadmin.

Callum Smith
Cynhyrchydd theatr wedi’i leoli yn Glasgow yw Callum Smith. Yn flaenorol yn Weinyddwr Rhyngwladol yn Royal Court Llundain, bu hefyd yn Gynhyrchydd gyda Theatr Genedlaethol yr Alban ers 2019, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd Ffederasiwn Theatr yr Alban.

Jo Crowley
Hefyd ar y panel mae Jo Crowley, Cynhyrchydd Theatr Annibynnol sydd wedi cynhyrchu dros 40 cynhyrchiad, taith a phrosiect ar gyfer artistiaid a chwmnïau annibynnol yn rhyngwladol. Mae hi’n Gynhyrchydd Gweithredol i 1927 a Chyd-gyfarwyddwr y Rhwydwaith Total Theatr.

Kate Perridge

Mae Kate Perridge yn ymuno â’r panel fel Cynhyrchydd a Rhaglennydd Theatr a Dawns gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn creu a theithio’r DU ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio gyda Jones the Dance ar brosiect Creative Europe, a gyda Intercut Labs sy’n cysylltu artistiaid yn India a Chymru.
 

Richard Wakeley
Ac yn olaf, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr Gŵyl Gelfyddydol Ryngwladol Belfast yw Richard Wakeley. Digwyddiad blynyddol blaenorol Iwerddon yw’r ŵyl sy’n cyfuno celfyddydau a syniadau cyfoes o ar draws y byd.