Bydd y cyfle yn cryfhau rhwydwaith o ysgolion i gyflwyno prosiectau creadigol ar thema allweddol Cynefin, sef Cymru ddu, Asiaidd sydd â lleiafrifoedd ethnig.

Byddwn ni’n recriwtio ymarferwyr creadigol i weithio (drwy’r Gymraeg a'r Saesneg) ar y cynnig newydd i ysgolion.

Ei nod yw rhoi cyfle i athrawon a disgyblion:

  • archwilio hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol
  • archwilio profiadau a chyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru, yn y gorffennol ac yn awr
  • cydweithio ag ymarferwyr creadigol sydd â phrofiad personol i wella ansawdd yr addysg

Meddai Charlotte Williams, Cadeirydd Gweithgor Llywodraeth Cymru sy'n ystyried profiadau a chyfraniadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd:

"Rwy'n falch iawn o weld Cyngor y Celfyddydau yn lansio'r prosiect. Mae’n ddatblygiad cyffrous ac yn gyfle pwysig i bob disgybl yng Nghymru archwilio cyfraniadau unigolion a chymunedau duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn y gorffennol ac yn awr."

"Rwy'n edrych ymlaen at weld strategaethau dysgu creadigol sy'n defnyddio dulliau arloesol o ymgysylltu â'r fath themâu a gweld cyflwyno’r enghreifftiau i ysgolion ledled Cymru."

Mae Cynefin yn defnyddio cryfderau'r Ysgolion Creadigol Arweiniol dros y pum mlynedd diwethaf i helpu ysgolion i archwilio syniadau a dulliau newydd.

Hanner dydd, ddydd Llun 8 Chwefror 2021 yw’r dyddiad cau ymgeisio i Ymarferwyr Creadigol. Dyma ddolen am ragor o https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/galwad-ymarferwyr-creadigol wybodaeth ac i ymgeisio.

Ar ôl hanner tymor Chwefror y gall ysgolion ymgeisio am hyn. I nodi eich diddordeb, cofrestrwch am ein bwletin dysgu creadigol.