Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am bobl sy’n angerddol a fydd yn cefnogi'r celfyddydau yng Nghymru ac a fydd yn herio gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru a dylanwadu arno drwy ymuno â'i Gyngor o Ymddiriedolwyr.

Mae'r Llywodraeth a Chyngor y Celfyddydau yn credu y dylai pawb yng Nghymru gael y cyfle i brofi'r celfyddydau ac y dylai cyrff cyhoeddus gynrychioli cymunedau gwahanol er mwyn iddyn nhw allu deall pobl Cymru a gwneud penderfyniadau sy’n well.

Dywedodd Dawn Bowden Aelod o’r Senedd, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

"Rydym ni eisiau darganfod pobl nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn ddigon aml a rhoi llais i’w gwahanol syniadau. Mae bod yn aelod o Gyngor Ymddiriedolwyr Cyngor y Celfyddydau yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut rydym yn cynrychioli grwpiau cymunedol gwahanol ar lefel leol ac yn genedlaethol."

Dywedodd Kate Eden, Cadeirydd Dros Dro Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae arnom angen lleisiau newydd ac amrywiol sy'n frwd dros i'r celfyddydau er mwyn iddyn nhw ymuno â ni. Byddwn ni'n annog ceisiadau gan y cymunedau a'r grwpiau cymdeithasol sydd wedi cael eu gwasanaethu'n annigonol yn y gorffennol gan gyllid cyhoeddus y celfyddydau. Mae angen i ni gael pobl i'n helpu ni i wneud y newidiadau sydd eu hangen i chwalu'r rhwystrau hyn."

Mae'r Llywodraeth a Chyngor y Celfyddydau yn credu y dylai pawb yng Nghymru gael y cyfle i brofi'r celfyddydau, ac y dylai cyrff cyhoeddus gynrychioli cymunedau a ffyrdd gwahanol o fyw er mwyn iddyn nhw allu deall pobl Cymru a gwneud penderfyniadau gwell. Mae croeso arbennig i geisiadau gan bobl sydd wedi'u tangynrychioli. Gall y rhain gynnwys:

  • Pobl o gefndiroedd ethnig gwahanol gan gynnwys pobl du a phobl o liw na sydd yn ddu
  • Siaradwyr Cymraeg
  • Menywod
  • Pobl ifanc dan 30 oed
  • Pobl anabl
  • Pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol
  • Pobl drawsrywiol
  • Pobl o gymunedau sydd â lefelau uchel o anfantais economaidd neu dlodi

Am fanylion pellach ewch i dudalen Llywodraeth Cymru ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.

Bydd pob swydd am dair blynedd a gofynnir i chi dreulio 1.5 diwrnod y mis yn gwneud gwaith y Cyngor, fel mynd i gyfarfodydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Nid oes tâl am y swyddi hyn ond bydd arian i dalu am gost teithio, prydau bwyd, ac aros dros nos.

I helpu'r broses recriwtio, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi trefnu sesiynau galw heibio ar Sŵm gydag aelodau presennol o’r Cyngor. Bwriad pob sesiwn yw caniatáu i ymgeiswyr posibl gael sgwrs unigol 10 munud gydag aelodau o'r Cyngor, i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt, a chael eglurhad am natur y swydd.

Cynhelir y sesiynau ar-lein: 

Kate Eden ac Elen Ap Roberts - 30 Tachwedd 2022 , 17.00 - 18.00 

Kate Eden a Devinda De Silva - 5 Rhagfyr 2022, 14.00 - 15.00 

I archebu lle cliciwch yma (bydd y lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin).

Mae'n bwysig nodi mai pwrpas y sesiynau yw darparu cyfleoedd i ymgeiswyr posibl gael mwy o wybodaeth am swydd benodol Aelod o'r Cyngor gan yr aelodau presennol. Ni fydd cyfle yn y sesiynau hyn i drafod gwaith ehangach Cyngor Celfyddydau Cymru, ei gynlluniau na'i strategaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais tan 4pm dydd Mawrth 3 Ionawr 2023 (o'r 12fed Rhagfyr gwreiddiol).

DIWEDD                                                         14 Tachwedd 2022