UNIG
Cymraeg: unig
Saesneg : alone; lonely; mere; only; sole; solitary.
Mae teimlo'n unig a bod yn unig yn ddau peth eithaf gwahanol. Dyma brosiect am y ddau. Mae perfformiadau o’r gwaith sydd ar y gweill yn cael eu cynnal yn Volcano, Citrus Arts a Theatr Byd Bach y mis hwn.
Mae’r tîm wrth eu bodd o fod wedi derbyn cyllid gan CREU i gefnogi ymchwil a datblygiad UNIG.
Y cynllun yw i dreulio llawer o amser yn clebran (gair a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gyfeirio at gyfeillgarwch agos rhwng merched heb y cynodiadau negyddol) gyda mxnywod* o ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru, yn casglu straeon am gymeriadau benywaidd o straeon gwerin Cymru, ac yn ymchwilio i ffigyrau hanesyddol a gyhuddwyd o ddewiniaeth. Byddwn yn tynnu o’r syniadau hyn, yn ogystal â bywyd Meg, menyw sengl 30 mlwydd oed sy’n byw yn Sir Benfro i ddechrau datblygu perfformiad unigol ar y llwyfan sy’n cyfuno theatr ddawns, cylchyn awyrol a chomedi. Yn gyfochrog â hyn byddwn yn creu ffilm fer sy'n cyfuno sain o'r cyfweliadau â delweddau gweledol ac archifau hanesyddol lleol.
*cynnwys pobl drawsrywiol ac anneuaidd
19 Medi - Volcano, Abertawe
20 Med i- Citrus Arts, Pontypridd
22 Medi - Theatr Byd Bach, Aberteifi
Tîm Creadigol UNIG
Megan Haines: Perfformiwr, cyd-arweinydd artistig
Marianne Tuckman: Cyfarwyddwr, arweinydd cyd-artistig
Lily Tiger T-Wells: Gwneuthurwr ffilmiau: arweinydd cyd-artistig
Ben Duke, Lost Dog: mentor artistig
Cefnogaeth dylunio sain: Marcelo Schmittner