Mae Ffilm Cymru Wales, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, yn cyflwyno gŵyl bedair wythnos o hyfforddiant am ddim yn y diwydiant ffilm i bobl Casnewydd.

Ydych chi’n 16+ oed ac yn byw yng Nghasnewydd? Dewch i’n gweithdai hwyliog ac ymarferol am ddim i’ch helpu chi i gael eich Troed yn y Drws yn y diwydiannau creadigol. 

Mewn mannau creadigol yn y Lle a’r Cab yng nghanol Casnewydd, bydd yr Ŵyl Sgiliau Ffilm yn cynnal gweithgareddau hwyliog am ddim dros gyfnod o bedair wythnos, gan gynnwys:

  • Gweithdai ymarferol
  • Sesiynau cynghori 
  • Digwyddiadau rhwydweithio
  • Dangosiadau ffilm

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sgiliau newydd a chael golwg manwl ar y diwydiant ffilm, gallwch chi gael mwy o wybodaeth a chadw lle mewn sesiynau am ddim yn:

FOOTINTHEDOORWALES.COM/NEWPORT

Wythnos Creu Ffilm: 27 Awst – 1 Medi

  • Creu Ffilm Fer Mewn Wythnos
  • Goleuadau, Camerâu, Amdani! – Yr Hyn Sydd Ei Angen Arnoch Chi I Ymuno Â’r Sector Ffilm A Theledu! 

Gŵyl Sgiliau Ffilm – Diwrnod I Deuluoedd: Dydd Sadwrn, 31 Awst 

  • Rhowch gynnig ar greu effeithiau arbennig gyda cholur
  • Cewch flas ar rithrealiti (VR) a dysgwch am effeithiau arbennig mewn ffilmiau
  • Cewch gyfle i weld rhai o bypedau cyfres y BBC, His Dark Materials, ar waith
  • Rhowch gynnig ar ffilmio gan ddefnyddio’ch ffôn symudol
  • A gweithgareddau eraill sy’n addas i’r teulu cyfan!

Wythnos Balchder: 2 - 8 Medi

  • Pypedwaith Ar Gyfer Ffilm A Theledu
  • Gweithdy Rhaglennu Ffilmiau Byrion
  • Animeiddio Stop-Symud 2d

Wythnos Creu Y Tu Ôl I’r Camera: 9 - 15 Medi

  • Cyflwyniad I’r Adran Lleoliadau
  • Gweithdy Cyflwyniad I Bypedwaith
  • Cyflwyniad I Golur Effeithiau Arbennig – Anafiadau Realistig
  • Technegau Syml I Steilio Gwallt  Gwead 
  • Cyflwyniad I Wisgoedd Ar Gyfer Ffilm A Theledu
  • Ysgrifennu Sgriptiau Ffilm Blaengar

Wythnos Sgiliau Digidol: 16 - 22 Medi

  • Cofnodi’r Foment: Ffilmio Ar Eich Ffôn Symudol
  • Ysgrifennu Drwy Lygaid Golygydd: Golygu Ar Gyfer Y Sgrin
  • Cyflwyniad I Effeithiau Gweledol A Chipio Symudiadau
  • Caffi Gyrfaoedd Ffilm A Theledu
  • Cyflwyniad I Ddylunio Cynyrchiadau
  • Dangosiad Ffilmiau Casnewydd Greadigol

Mae’r digwyddiad hwn yn bosibl drwy gefnogaeth Cyngor Casnewydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.