Gyda thristwch y clywodd staff a ffrindiau o Gyngor Celfyddydau Cymru am farwolaeth Ruth Till MBE.
Bu Ruth Till MBE yn Aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2004 a 2010, yn Gadeirydd Pwyllgor Rhanbarthol De Cymru (2004 – 2010) a gwasanaethodd hefyd fel un o Gynghorwyr Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd hi'n Gyfarwyddwr Rubicon Dance (1993-2009). Roedd hefyd yn Gadeirydd y Bwrdd yn Ballet Cymru (2010-2020) ac fe'i penodwyd yn Noddwr y cwmni ar ôl iddi ymddeol o'u Bwrdd yn 2020. Bu hefyd yn Is-gadeirydd y Foundation for Community Dance (People Dancing bellach). Yn 2005, dyfarnwyd MBE i Ruth yn 2005 am ei gwasanaethau i'r sector dawns yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Maggie Russell,
"Roedd angerdd Ruth am ddawns yn treiddio’n ddwfn, ac yn hanfodol i'w heffaith ar ddawns yma yng Nghymru a thu hwnt oedd ei haelioni, ynghyd â gwybodaeth ddofn o'i maes. Roedd hi'n garedig ac yn gweithio mewn partneriaeth, ac roedd yna ysgafnder yn ei dull o arwain. Roedd ei hymrwymiad a'r goleuni a oedd yn disgleirio ohoni yn cyffwrdd unrhyw un fyddai’n cwrdd â hi, a datblygodd genhedlaeth gyfan o ddawnswyr. Rydym yn ymestyn ein cydymdeimladau dwys i'r rhai a oedd yn ei hadnabod a'i charu ar yr adeg trist yma."