Mae ffrindiau a chydweithwyr yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn drist o glywed am farwolaeth David Jackson OBE.

Chwaraeodd David ran bwysig yn sector celfyddydau Cymru, fel Pennaeth Cerddoriaeth, Cymru yn y BBC, Cyfarwyddwr Dros Dro Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Dirprwy Is-ganghellor Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Rheolwr Gyfarwyddwr Cerddorfeydd Cenedlaethol Plant Prydain. Yn ddiweddar, bu’n Gyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. 

Gwnaed David yn OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2022.

Roedd David Jackson yn ddyn rhyfeddol, gydag angerdd dwfn a deallus am y celfyddydau a'r doethineb i wybod sut i wneud pethau, a gwneud gwir wahaniaeth.

"Roedd yn arweinydd o'r radd flaenaf yn ei faes, ac mae cymaint o raglenni a phrosiectau gwych yng Nghymru a'r byd wedi elwa o'i dalent. Roedd yn gydweithiwr hael a charedig gyda ffraethineb hwyliog. Bydd colled mawr ar ei ôl.

Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Maggie Russell