Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Dechnegydd aml-fedrus i ddarparu cefnogaeth dechnegol i'r cwmni wrth greu a pherfformio gwaith yn y Tŷ Dawns, ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol, ac mewn lleoliadau eraill, yn ogystal a darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer llogiadau allanol yn y Tŷ Dawns.
Mae'r Technegydd Lleoliad a Theithio yn adrodd i'r Pennaeth Cynhyrchu ac yn cynnig cefnogaeth yn y meusydd canlynol:
- Cynnig cefnogaeth dechnegol i Goreograffwyr, Dylunwyr a'r Tîm Cynhyrchu wrth gynhyrchu a chreu gwaith newydd/ail-lwyfannu gwaith blaenorol.
- Teithio ein gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gymryd rôl flaenllaw yn llwytho mewn, gosod a llwytho mas ein gwaith a gweithredu’r system Goleuo/Sain yn ystod perfformiadau.
- Cefnogi'r Pennaeth Cynhyrchu gyda rhedeg y Tŷ Dawns fel Lleoliad Perfformio.
Contract oriau blynyddol yn seiliedig ar 3 diwrnod yr wythnos
CYFLOG £30,349 Pro rata ( £18,209pa)
Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, a gan ein bod eisiau adlewyrchu'r gymdeithas lle rydym yn byw a gweithio, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl b/Byddar ac anabl ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Dydd Llun y 24ain o Dachwedd
Am ragor o wybodaeth ac am becyn ymgeisio, ewch i'n gwefan
Cwmni Cyfyngedig cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419
Elusen Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227
 
