Wedi’i daflunio ar waliau cyhoeddus a'u mwynhau drwy Glustffonau Disgo Distaw, mae Opera Celf Stryd yn cyfuno egni a phrotest celf stryd â grym dramatig adrodd straeon operatig mewn ffordd newydd, gyffrous. Mae’r gweithiau digidol 10 munud hyn yn cynnig profiadau ymdrochol a heriol mewn mannau cyhoeddus.

Wedi’u creu gan artistiaid o Gymru, gan gynnwys y cerddor Eadyth, y cyfansoddwraig Claire Victoria Roberts a’r artist graffiti Amelia Unity, mae’r operâu'n cyfuno cerddoriaeth, animeiddio a chelf ddinesig. Mewn cydweithrediad ag artistiaid stryd, cantorion, cerddorion ac ysgrifenwyr, mae’r darnau hyn yn archwilio themâu hunanfynegiant ac yn cynnig ymateb dewr i'r argyfwng hinsawdd.

Rahmat – Mercy – Trugaredd

Gan Amelia Unity, Eadyth, Sam Hussain a Jamie TC Panton

Wedi’i ysbrydoli gan Suffistiaeth a diwylliant hip-hop, mae’r darn hwn yn dilyn Sana wrth iddi wrthwynebu cyfyngiadau cymdeithasol a diwylliannol i archwilio ei chreadigrwydd a hawlio ei lle yn y byd. Gan gyfuno delweddau wedi’u hysbrydoli gan henna a graffiti gyda sgôr gerddorol ysbrydol a grymus, mae’n stori ysbrydoledig o hunanddarganfod ac ymrymuso. Testun yn Gymraeg, Saesneg ac Urdu.

Allan o Amser (Out of Time)

Gan Claire Victoria Roberts, Giselle Ty a Lauren Orme
Cerddoriaeth gan Sinfonia Cymru

Stori ffantasi gomig-ddywyll wedi’i gosod mewn dyfodol lle mae natur yn adennill ei chyfoeth a’i brydferthwch. Mae planhigion ac anifeiliaid yn codi i wrthsefyll difodiant, gan lenwi’r strydoedd â lliwiau caledoscopaidd. Mae’r stori swreal ac operatig hon yn ein herio i fyfyrio ar ein rôl yn yr argyfwng hinsawdd. Bywiog, gwyllt ac yn ddwfn o ran ei effaith.