Bydd Gwen Yr Arth Wen yn teithio i theatrau bach, canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd yn ystod Gwanwyn 2026. Rydym yn chwilio am arbenigwr Marchnata a'r Wasg llawrydd i sicrhau bod y sioe yn cyrraedd ein gynulleidfa dargedol mewn ardaloedd yn Ne Cymru sydd â niferoedd isel o siaradwyr Cymraeg.

Mae Gwen Yr Arth Wen - wedi'i hysgrifennu gan Chris Harris a'i chyfarwyddo gan Elan Isaac - yn sioe i blant 6+ a'u teuluoedd y gall mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ wedi torri gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'i theulu. Ar ei thaith beryglus trwy fôr yr Arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i'w dewrder, yn ogystal â'i ffordd adref. Perfformiad gweledol ac ysgogol i gynulleidfaoedd ifanc a'u teuluoedd ar newid hinsawdd a chartref yw hon.

Rydym yn chwilio am rywun:

  • all cysylltu â grwpiau cymunedol ac unigolion i hybu’r sioe a'i neges
  • sydd â phrofiad o ddelio â lleoliadau theatrig yn ogystal â mannau cymunedol a chreu asedau er mwyn i lleoliadau eu defnyddio ar gyfer eu marchnata eu hunain.
  • sydd yn hyderus wrth gyfarthrebu yn Gymraeg neu â phrofiad o weithio ar brosiectau eraill yn y Gymraeg os nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg eu hunain.
  • â phrofiad yn archebu a dosbarthu print mewn ffordd cynaliadwy.
  • â phrofiad yn reoli eu cyllideb eu hunain.
  • â phrofiad yn cysylltu â chyfryngau'r wasg - nid ydym o reidrwydd â diddordeb mewn derbyn adolygwyr ar gyfer y sioe hon ond hoffem iddi gael ei hamlygu mewn cyfryngau newyddion lleol.
  • â phrofiad yn ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ledaenu'r gair am gynyrchiadau theatrig.
  • sydd yn hyderus wrth ysgrifennu a golygu copi a datganiadau i'r wasg.
  • sy’n gallu trefnu deunydd hyrwyddo'r sioe, gan gynnwys ffotograffiaeth.

Dyddiadau

Hoffem i'r person hwn ddechrau cyn gynted â phosib, ond amser prysuraf y brosiect fydd yn y flwyddyn newydd. Mae ymarferion yn cychwyn ar y 26ain Ionawr yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd

Bydd dyddiadau y daith yn ystod Gwanwyn 2026

Ffioedd

£2600 am 13 diwrnod o waith + Cyllideb Marchnata

Er mwyn mynegi diddordeb yn y rôl hon, anfonwch neges fer yn amlinellu eich profiad yn ogystal â'ch CV at Glesni Price-Jones - Cynhyrchydd (glesnipj@gmail.com) erbyn 09:00 ar y 20fed Hydref 2025.
 

Dyddiad cau: 20/10/2025