Yn fuan bydd ein staff yn y Gorllewin a’r Canolbarth yn symud i'r Egin, canolfan ddiwylliannol Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant, yng Nghaerfyrddin.
O weithio gartref yn bennaf dros gyfnod y pandemig, bydd y staff yn awr â lle mewn swyddfa i weithio a defnydd o ystafelloedd cyfarfod.
Dywedodd Rebecca Nelson, Cyfarwyddwr Cyllid a Busnes, Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Dyma ddatblygiad cyffrous sy'n dangos ein hymrwymiad i gael swyddfeydd led-led Cymru. Gynt, roedd ein staff wedi eu lleoli yn swyddfa Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr yng Nghaerfyrddin am 8 mlynedd. Diolchwn i’r Gymdeithas am ei chroeso.
"Ond, wrth i’r cyfyngiadau cofid gael eu llacio, buom yn ailystyried anghenion staff Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys a’r ateb perffaith oedd Yr Egin.
"Bydd gennym 4 pedair desg boeth a’r gallu i ddefnyddio ystafelloedd cyfarfod o fewn y ganolfan ond bydd y staff hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd rhwydweithio a fydd yn deillio o fod wedi eu lleoli mewn canolfan ddiwylliannol mor greadigol."
Diwedd 1 Medi 2022