Francis Spufford yw awdur poblogaidd Golden Hill, sef 'Llyfr gorau'r unfed ganrif ar hugain' yn ôl Richard Osman. Aeth y nofel gyntaf yma ymlaen i ennill nifer o wobrau llenyddol o fri. Does ryfedd. Mae'n darllen yn dda iawn. Fe'i dilynwyd gan Light Perpetual a gyrhaeddodd restr hir Gwobr Booker 2021.

Ei waith ffuglen diweddaraf yw Cahokia Jazz, stori wefreiddiol am lofruddiaeth a dirgelwch mewn dinas lle mae hanes wedi rhedeg ychydig yn wahanol. Unwaith eto, mae’r beirniaid llenyddol wedi bod yn llawn canmoliaeth gan ei alw'n 'wefreiddiol', yn 'hyfrydwch' ac yn 'glasur o hanes amgen'.

Mae Nick Hornby wedi ei alw'n 'Un o'r meddyliau mwyaf gwreiddiol mewn llenyddiaeth gyfoes'.

Mae hefyd wedi ysgrifennu pum darn uchel eu clod o waith sydd ddim yn ffuglen, a ddisgrifiwyd gan adolygwyr fel rhai 'gwych' a 'rhyfedd'.

AM DOCYNNAU - events@artshopandchapel.co.uk - 01873 852690/736430.