Yn dilyn llwyddiant Dysgu Creadigol: Bwydwch eich meddwl, gwahoddir athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol yn wresog i fynychu cyfle diweddaraf rhaglen Dysgu Creadigol Cyngor y Celfyddydau, sgyrsiau dysgu creadigol.
Mae sgyrsiau dysgu creadigol ar dân am brofiadau dysgu creadigol mewn ysgolion ac yn dod ag athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol ynghyd ar draws rhaglen Dysgu Creadigol (a’r tu hwnt) i gysylltu, rhannu, adlewyrchu a dysgu.
Ni waeth beth fo eu lefel o ddealltwriaeth a'u profiad o ddysgu creadigol, bydd sgyrsiau dysgu creadigol yn rhoi i'r cyfranogwyr syniadau i’w mabwysiadu, archwilio, gweithredu ac ymestyn eu dulliau o ddysgu creadigol.
Bydd y sgyrsiau’n datblygu lleoedd i sbarduno'r dychymyg, creu cyfleoedd i gydweithio a meithrin meddylfryd chwilfrydig i’w ddatblygu i gefnogi dysgu proffesiynol athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol fel ei gilydd. Cyflwynir mewn amrywiaeth o fformatau sesiynau sy'n ysgogi'r meddwl ac sy’n cael eu harwain gan athrawon, gweithwyr creadigol proffesiynol ac aelodau o dîm dysgu creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru mewn ymateb i ddiddordebau a syniadau’r cyfranogwyr. Gallai'r sesiynau gynnwys:
- sesiynau rhannu am brosiectau gan athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol sy'n cymryd rhan
- trafodaethau panel am bynciau a themâu sy'n gysylltiedig â dysgu creadigol
- gweithdai ar-lein sy'n archwilio addysgeg dysgu creadigol
Bydd athrawon yn cael eu gwahodd i drafod sut mae cymryd rhan yn y rhaglen Dysgu Creadigol a defnyddio addysgeg dysgu creadigol wedi’u cefnogi wrth iddynt roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith a sefydlu dulliau creadigol o addysgu a dysgu yn eu hymarfer.
Bydd sgyrsiau dysgu creadigol yn gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn parhau drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda sesiynau wedi'u cynllunio mewn ymateb i ddiddordebau athrawon a gweithwyr proffesiynol creadigol. Bydd y ddwy sesiwn gyntaf, Sgyrsiau dysgu creadigol: Clwb ffilm, yn galluogi cyfranogwyr i wylio a thrafod ffilmiau astudiaeth achos o brosiectau ar draws rhaglen dysgu creadigol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich safbwyntiau a'ch adborth. Dewch i ymuno â ni am sgwrs dysgu creadigol.
Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiynau, isod.