Ers agor ei drysau yn 2019, mae canolfan CULTVR wedi sefydlu Caerdydd fel canolbwynt i gelfyddydau trochol a Realiti Ymestynnol. Mae wedi torri tir newydd fel y ganolfan gelfyddydau trochol cyntaf o'i math yn y DU. Mae CULTVR yn fenter sy'n cael ei rhedeg yn gwbl annibynnol - yr unig ganolfan yn y DU sy'n gallu cyflwyno perfformiadau trochol byw ar raddfa fawr gydag elfennau gweledol cryndo amgylchynol (fulldome). 

Mae ei gweledigaeth a'i llwyddiant wedi sicrhau presenoldeb amlwg i Gaerdydd ar y llwyfan celfyddydau trochol rhyngwladol.
Yn Hydref eleni, bydd CULTVR yn cyflwyno 'Sesiynau Seinwedd' - rhaglen uchelgeisiol o berfformiadau trochol byw sy'n parhau'r genhadaeth i wthio ffiniau cerddoriaeth, celf a thechnoleg. 

Cefnogir Sesiynau Seinwedd 2025 gan Ŵyl Dinas Cerdd Caerdydd, gan gadarnhau statws cryndo CULTVR fel platfform allweddol ar gyfer arloesi diwylliannol yn y brifddinas.

Mae'r artistiaid sy'n perfformio eleni'n cynnwys:

  • Ishmael Ensemble: Bydd yr ensemble cydweithredol arloesol o Fryste yn dod â'u cyfuniad unigryw o jazz, ecletronica a seiniau arbrofol i gryndo CULTVR ar gyfer perfformiad unigryw, gydag elfennau gweledol 360º gan stiwdio Cynyrchiadau 4Pi.
  • Monocolor: Bydd yr artist clyweledol adnabyddus o Fiena'n cyflwyno perfformiad trochol cyfareddol sy'n toddi'r ffiniau rhwng sain gofodol, golau a lleoliad.
  • Beardyman: Mae Beardyman yn arloeswr ac yn un o arwyr y sîn bîtbocsio a dolennu byw ym Mhrydain. Bydd yn dod â'i ddyfeisgarwch geiriol, ei feistrolaeth gerddorol a'i arddull berfformio blaengar i gryndo CULTVR i gyflwyno perfformiad amgylchynol arbennig.

Ers y cychwyn, mae CULTVR wedi denu artistiaid ac ymarferwyr creadigol o ledled y DU oedd yn awyddus i archwilio ac arbrofi gyda dulliau trochol o adrodd straeon, ond oedd heb gyfleusterau nac adnoddau i wneud hynny yn eu milltir sgwâr. Dros amser, mae Caerdydd wedi dod yn rhan o rwydwaith fyd-eang o ganolfannau trochol. Mae wedi meithrin cysylltiadau gydag arweinwyr rhyngwladol yn y maes fel Montreal’s Society for Arts & Technology (SAT) a sicrhau cynrychiolaeth mewn digwyddiadau diwylliannol mawr fel gŵyl SXSW yn Texas.

Byddwn yn cyflwyno'r Sesiynau Seinwedd yng nghryndo CULTVR gan fynd â chynulleidfaoedd ar siwrneiau unigryw i gyffroi'r synhwyrau, gyda chyfuniad o artistiaid byd-enwog ac elfennau gweledol trochol hynod.

"Rydyn ni wrth ein bodd i ddod â'r Sesiynau Seinwedd yn ôl am ail flwyddyn" meddai Matt Wright, Cyfarwyddwr Artistig CULTVR. "Nod y gyfres yma o berfformiadau byw yw gwthio ffiniau artistig a thechnegol, ac mae'r artistiaid eleni'n addo creu profiadau bythgofiadwy mewn ffyrdd unigryw sydd ond yn bosib yng nghryndo CULTVR."