Mae’r arian yma wedi creu seilwaith fodern i’r celfyddydau ac wedi newid y tirlun, gyda chodi adeiladau eiconig o fri rhyngwladol megis Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd; Pontio, Bangor; Galeri, Caernarfon a Tŷ Pawb, Wrecsam.

Mae’r Rhaglen Gyfalaf yn cefnogi mwy na dim ond adeiladau newydd.  Gellir gwneud cais am waith i drwsio hen adeiladau, neu wneud newidiadau i lefydd er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl anabl.  Mae rhai cwmnïau yn defnyddio’r rhaglen er mwyn bod yn fwy cynaliadwy.  Yn ddiweddar, defnyddiodd cwmnïau yr arian i wneud addasiadau er mwyn gwneud eu llefydd yn saffach i weithwyr ac ymwelwyr o ran COVID. 

Edrychwch ar enghreifftiau o’r Rhaglen Gyfalaf ar waith ym Mhontypridd, Bangor a Wrecsam drwy wylio’r fideo hwn: 

Mae’r Rhaglen Gyfalaf ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau: