Bydd cynhyrchiad nesaf Red Oak Theatre, sef Splinter gan Gemma Prangle, yn dod i Stiwdio’r Sherman rhwng dydd Sadwrn 14 Medi a dydd Sadwrn 21 Medi 2024.

Tad. Merch. Corff.

Gyda’i gilydd mewn coedwig ddychmygol, mae Mali a David yn ceisio dod i delerau â marwolaeth eu mam a’u gwraig. Wrth i’r tensiwn gynyddu, mae holltau yn ffurfio yn eu perthynas sydd eisoes yn fregus. Mae Splinter yn datgelu aflonyddwch galar a sut mae natur yn llwyddo i’n dal ni ar yr adegau hynny lle mae dal ein hunain yn teimlo’n amhosibl.

Yn serennu yn y ddrama mae Nia Gandhi (Enola Holmes 2, Casualty, Pijin/Pigeon) a Rhys Parry Jones (House of the Dragon, A Very English Scandal, Eastenders), ac mae’r cynhyrchiad yn cael ei gyd-gyfarwyddo gan Nerida Bradley a Matthew Holmquist. Dyma fydd cynhyrchiad cyntaf Red Oak Theatre fel Cwmni Preswyl yn Theatr y Sherman.

Doeddwn i ddim yn bwriadu ysgrifennu drama am alar,” meddai Prangle am ei drama gyntaf hyfryd, “ond rwy’n meddwl weithiau bod ein profiadau personol ni mor gryf y tu mewn i ni fel bod y straeon hynny’n dod o hyd i ffordd o gael eu hadrodd.

Ymunwch â ni ar gyfer y profiad unigryw a theimladwy hwn fis Medi.

Dehongli BSL gan Julie Doyle nos Iau 19 a nos Wener 20 Medi.

Sain-ddisgrifiad gan Lowri Morgan nos Iau 19 Medi.

Gwnaed y cynhyrchiad hwn mewn partneriaeth â COPE Community, sydd wedi darparu cymorth llesiant drwy gydol y broses. Hoffai Red Oak ddiolch hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Philip Carne am eu cefnogaeth ariannol barhaus.

Tocynnau: £16 pris llawn / £14 consesiynau / Hanner Pris i bobl dan 25 oed

Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4YE

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Red Oak Theatre, gallwch ddilyn y tîm ar Instagram @redoaktheatre ac ar Facebook a Twitter @ROTheatre.