Mae Oriel Myrddin yn paratoi i ailagor yn dilyn gwaith ailddatblygu sylweddol. Mae’r oriel yn gwahodd cynigion gan weithredwyr caffi profiadol a chreadigol i reoli a rhedeg caffi croesawgar, o safon uchel yn eu lleoliad arddangos ar ei newydd wedd yng nghanol tref Caerfyrddin.

“Bydd y caffi yn chwarae rhan bwysig wrth groesawu pobl i’r adeilad, gan gynnig lle i ymwelwyr oedi, cysylltu a myfyrio. Rydym am i’r caffi weini coffi ardderchog, danteithion blasus a chroeso cynnes, gyda dull sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd o gynaliadwyedd, cynhwysiant a dylunio da.” Catherine Spring, Rheolwr yr Oriel.

“Rydym yn chwilio am bartner sy’n deall amgylchedd unigryw lleoliad celfyddydau gweledol ac sy’n gallu darparu cynnig bwyd a diod sy’n ategu ein rhaglen gyhoeddus, yn ennyn diddordeb ein hymwelwyr, ac yn cyfrannu at fywyd diwylliannol bywiog y lleoliad.”

Bydd Oriel Myrddin yn ailagor gyda’r arddangosfa, GWRACH | WITCH Clive Hicks-Jenkins: A Fairy Tale Retold, sy’n ailddychmygu stori Hansel a Gretel drwy ddarlunio, creu gwrthrychau a chrefft. Mae’r arddangosfa’n gwahodd cynulleidfaoedd o bob oed i archwilio pŵer oesol adrodd straeon trwy grefft.

Oriel Myrddin yw’r lleoliad arweiniol yn ne-orllewin Cymru ar gyfer celf a chrefftau gweledol cyfoes. Bydd y gwaith ailddatblygu sylweddol yn creu man cyhoeddus beiddgar, ysbrydoledig sy’n dathlu dychymyg, sgiliau a chyfnewid creadigol.

“Credwn y byddai ansawdd bywyd ein cymunedau yn sylweddol dlotach heb artistiaid a’u gwaith. Drwy ein rhaglen a’n partneriaethau rydym yn anelu at greu lle ar gyfer cysylltiad, ysbrydoliaeth a safbwyntiau newydd. Rydym yn chwilio am bartner caffi sy’n rhannu ein  hymrwymiad i ansawdd, creadigrwydd a gofal.”

I weld y ddogfen dendro yn ei chyfanrwydd, ac i gael gwybod mwy a sut i ymgeisio, ewch i wefan Oriel Myrddin: www.orielmyrddingallery.co.uk/adref
 

Dyddiad cau: 22/11/2025