Dydd Mercher, Hydref 30ain
18:00-19:30
90-120 munud
Oedran: 16+ oed
Mae'r sesiwn hon, sy'n gyfuniad o sgwrs artist a gweithdy, yn archwilio ffyrdd chwareus ac ystyrlon o gysylltu â'r tymhorau a'r cylchoedd, gyda ffocws ar weithio gyda niwrowahaniaeth.
Mae’r artist a’r awdur Kathryn (Karn) John yn rhannu eu harfer o wneud inciau botanegol a phaent priddliw gan ddefnyddio gwrthrychau a gasglwyd o’r mannau lle maent yn byw, yn gweithio ac yn cerdded. Yn dilyn diagnosis o ADHD yn 2023 a chefnogaeth drwy gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Kathryn wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i arsylwi eu cylchoedd creadigol eu hunain er mwyn meithrin arfer proffesiynol cynaliadwy.
Byddant hefyd yn cyflwyno rhai prosesau syml ar gyfer creu cysylltiadau tymhorol fel creu inc gan ddefnyddio aeron o wrychoedd, ymarferion ysgrifennu rhydd byr a myfyrdod synhwyraidd ysgafn.
Bydd Kathryn hefyd yn cyflwyno'r pethau hyn sy'n eu cefnogi fel artist niwrowahanol ac yn rhannu ffyrdd y gall y pethau hyn eich cefnogi gyda'ch gwaith celf eich hun.
Dewch â'r canlynol gyda chi (nid yw'r rhestr yn hanfodol):
● Rhywfaint o aeron (mwyar duon, aeron ysgaw, eirin duon bach, llus, mefus)
● Ychydig o sudd lemwn
● Ychydig o soda pobi
● Llyfr nodiadau/llyfr braslunio/papur a phin
Does dim rhaid i chi siarad na throi eich camera ymlaen a does dim rhaid i chi rannu unrhyw beth yn y sesiwn hon os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
Mae croeso i chi arsylwi, dod â'r hyn sydd ei angen arnoch er mwyn i chi fod yn gyfforddus a symud o gwmpas os oes angen gwneud hynny yn ystod y sesiwn.
Cefnogir y sesiwn hon gan ddelweddau a thestun sy'n cynnwys pwyntiau allweddol ar PowerPoint.
Croesewir cwestiynau drwy gydol y sesiwn a bydd ymatebion yn cael eu darparu lle bo modd yn ystod y gweithdy ac ar y diwedd.
Mae isdeitlau ar gael drwy ZOOM.