Mae menter gymunedol Galeri Caernarfon wedi cyhoeddi tri hysbyseb swydd newydd — fydd yn chwarae rôl allweddol wrth weithredu ar weledigaeth y cwmni dros y misoedd nesaf.  

Mae Galeri’n cyfrannu bron i £2.5m y flwyddyn i economi Gwynedd a Môn trwy amryw brosiectau cynaliadwy, creadigol — yn gwireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal leol. 

Tu hwnt i Canolfan Gelfyddydau Galeri, mae’r cwmni’n gyfrifol am adnewyddu dros ugain o adeiladau gwag sydd wedi eu hesgeuluso yn y dref, yn ogystal â phrosiect adfywio Cei Llechi sydd bellach yn gartref i bentref Artisan sy’n cynnwys gwaith gan Beth Horrocks, Lisa Eurgain Taylor a Glyn Davies. 

Bron i dri mis i mewn i’w phenodiad fel Prif Weithredwr newydd Galeri, mae Nia Arfon yn barod i recriwtio tri aelod ychwanegol i staff craidd y Cwmni, i gyfrannu at ffyniant pellach y gwaith. 

Ymysg y swyddi mae Cyfarwyddwr Gweithrediadau, a fydd yn gyfrifol am oruchwylio gweithredoedd dydd-i-ddydd y ganolfan gelfyddydau a’r eiddo; Swyddog Corfforaethol, a fydd yn cydlynu a chefnogi’r Prif Weithredwr a llywodraethiant y Cwmni; a Thechnegydd, fydd yn darparu gwasanaeth technegol ar draws darparaethau’r theatr, y sinema a mwy. 

Tu hwnt i'r penodiadau hyn, bydd y Cwmni yn tyfu’r tîm marchnata yn y dyfodol agos. Er nad oes swydd ddisgrifiadau marchnata penodol, mae Galeri’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwnnw, waeth beth fo’u profiad, sgil neu dalent i gysylltu am sgwrs.  

Ar drothwy’r bennod newydd hon, dywedodd Nia Arfon: “Pobl sydd wrth wraidd y cwmni, a dwi’n barod wedi cael y fraint o gyd-weithio gydag unigolion ysbrydoledig — mewn meysydd creadigol a thu hwnt. 

“Bydd ehangu’r tîm yn ein galluogi i ddyfnhau’r cysylltiadau hynny — boed gyda thenantiaid; darpar-denantiaid neu rhanddeiliaid — a sicrhau gwir gynaladwyedd a chreadigrwydd ym mhob agwedd o’n gwaith.  

“Gyda seilwaith staff strategol gref, dwi’n hyderus y gallwn fentro a gwireddu ar ein gweledigaeth hir-dymor o agor drysau i bobl na fyddai fel arfer yn ymwneud â gweithredoedd y Cwmni, a Chaernarfon yn ehangach.” 

Daw’r datblygiad hwn wrth i Galeri groesawu wyth aelod newydd i’w Bwrdd, yn ddiweddar, hefyd, gan gynnwys Lois Prys, Sharon Owen, Siwan Haf a Rhodri Morgan —sydd yn ychwanegu trwch o brofiad, amrywiaeth a brwdfrydedd i gyfeiriad strategol y Cwmni.  

I ddysgu fwy am y swyddi sydd ar gael, ewch i: Galeri Caernarfon Cyf, Caernarfon, Gwynedd. Am unrhyw ymholiadau pellach yn ymwneud â swyddi, cysylltwch ar swyddi@galericaernarfon.com