Mae Theatr Cymru yn falch iawn o rannu cast a thîm creadigol cynhyrchiad Huw Fyw, drama lwyfan newydd gan Tudur Owen. Gyda chefnogaeth gan Galeri Caernarfon, bydd y cynhyrchiad arbennig hwn yn agor yn Galeri ar 1 Mai, cyn teithio i brif lwyfannau theatrau ledled Cymru.
Yn ei ddrama gyntaf i’r llwyfan, bydd Tudur ei hun yn serennu fel Huw Fyw, gyda chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly. Mae’r cwmni hefyd yn falch iawn o groesawu Owen Alun (Rownd a Rownd, Pijin), Dafydd Emyr (Kill Thy Neighbour, Rhinoseros) a Lois Meleri Jones (Dal y Mellt, Pobol y Cwm) i’r cast. Ochr yn ochr â’r actorion talentog yma, mae Theatr Cymru wedi ymgasglu tîm creadigol gwych i lwyfannu’r cynhyrchiad. Elin Steele fydd yn cynllunio’r set a gwisgoedd, gan ddod â byd Huw i’r llwyfan, gyda Elanor Higgins fel cynllunydd goleuo ac Alexander Comana fel cynllunydd sain.
80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, mae Huw Fyw yn dilyn hanes hen filwr blin sy’n profi tro lwcus sy’n newid ei fywyd ac yn ei orfodi i wynebu ei orffennol. Wrth fynd â’r gynulleidfa ar antur fythgofiadwy o bentref bach i ganol Llundain, mae’r sioe yn cynnwys direidi a ffraethineb nodweddiadol Tudur – ond mae hefyd yn herio stereoteipiau am hen bobl o fewn cymdeithas, ac yn ymdrin ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) a’r euogrwydd o oroesi trychineb rhyfel.
Yn awyddus i fentro i fyd y theatr, mae Tudur wedi bod yn datblygu’r sgript gyda Theatr Cymru ers rhai blynyddoedd:
“Dwi wedi bod yn byw hefo Huw Fyw ers sawl blwyddyn bellach. Mae o’n gymeriad gafodd ei greu ar gyfer un o fy sioeau yn Ngŵyl y Ffrinj Caeredin ond yn dilyn cyfnod cyffrous iawn o ddatblygu’r ddrama hefo Theatr Cymru, dwi’n edrych ymlaen at ei gyflwyno ar ein prif lwyfannau.”
Mae’r cyfarwyddwr Steffan Donnelly yn edrych ymlaen yn arw at gychwyn ymarferion:
“Ers fy nghyfarfod cyntaf efo Tudur, dwi wedi cael modd i fyw yn datblygu’r ddrama yma. Mae drama gyntaf un o ddigrifwyr enwoca’ Cymru yn ddigwyddiad theatrig cyffrous a dwi methu aros i gynulleidfa ei brofi hi. Mae Tudur yn dod a’i hiwmor, deallusrwydd ac empathi i bob golygfa. Mae dadl difyr rhwng y gorffennol a’r presennol yn rhedeg drwy’r stori, sy’n gofyn sut mae dygymod efo digwyddiadau sy’n siapio pwy ydyn ni? Dwi’n edrych ymlaen i gydweithio efo tîm creadigol a cast hynod dalentog i ddod a byd direidus a swynol Huw Fyw yn fyw!”
Mae hygyrchedd yn rhan annatod o daith Huw Fyw. Bydd capsiynau dwyieithog caeedig ar gael ym mhob perfformiad, trwy ap Sibrwd, a bydd capsiynau dwyieithog agored ar gael yn Theatr y Sherman, Caerdydd, a Pontio, Bangor. Bydd sain ddisgrifiad trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar bob perfformiad yn Galeri, Caernarfon, Theatr y Sherman, Caerdydd, a Pontio, Bangor – a bydd teithiau cyffwrdd ar gael cyn y sioeau hynny hefyd, er mwyn rhoi cyfle i fynychwyr dall a’r rheiny sydd ag amhariad ar y golwg allu archwilio’r set, props a gwisgoedd.
Fel rhan o bartneriaeth rhwng Theatr Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, bydd Huw Fyw yn destun i Wers Gyfoes Genedlaethol ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd, Uwch, Gloywi ac aelodau’r cynllun Siarad. Mae’r cwmni hefyd yn datblygu rhaglen benodol i ddysgwyr a bydd Tudur yn cymryd rhan mewn sgwrs ar-lein i ddysgwyr ar 2 Ebrill 2025.
Mae Huw Fyw yn rhan o flwyddyn fawr i Theatr Cymru, wrth i’r cwmni gyflwyno 6 cynhyrchiad. Cafwyd ymateb anhygoel i daith gyntaf y flwyddyn, Byth Bythoedd Amen gan MaredJarman (★★★★ "Searing drama with the edge of stand-up comedy" The Guardian) gyda chanolfannau ledled Cymru dan ei sang. Yn dilyn taith Huw Fyw, bydd Theatr Cymru nôl ar daith gyda Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow, cyn cyflwyno detholiad o sgwennu newydd fel rhan o Wrecslam! ar y cyd â Theatr Clwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Yn nhymor yr hydref, bydd y cwmni’n cyflwyno cynhyrchiad dwyieithog o glasur Shakespeare Romeo a Juliet, cyn dod â’r flwyddyn i ben gyda chyd-gynhyrchiad i blant gyda Theatr y Sherman, Biwti a Brogs gan Gwawr Loader.
Dyma fanylion taith Huw Fyw:
Galeri, Caernarfon
01 - 03 Mai 2025
Noson Westeion: 02 Mai 2025
Lyric, Caerfyrddin
07 Mai 2025
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
09 Mai 2025
Theatr y Sherman, Caerdydd
14 - 16 Mai 2025
Y Stiwt, Rhosllanerchrugog
20 Mai 2025
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
22 Mai 2025
Pontio, Bangor
24 Mai 2025