GŴYL PRINTIEDIG yn dychwelyd: Argraffu’n galetach!
Bydd GŴYL PRINTIEDIG yn dychwelyd i Gaerdydd am ei hail flwyddyn, diolch i gyllid a chefnogaeth rydyn ni wedi’i sicrhau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. Mae’n debyg y gallwn ni ddisgwyl mwy a gwell!
Canolfan Gelfyddydau Chapter, 8 - 9 Mehefin 2024, 11am-4pm: Penwythnos hwyliog, rhad ac am ddim i'r teulu i ddathlu popeth o fyd print.
Gwnaeth GŴYL PRINTIEDIG ei hymddangosiad cyntaf yng Nghaerdydd yr haf llynedd. Yn ffrwyth breuddwydion yr argraffwyr hynod brofiadol, Tom Whitehead (The Printhaus, Ed & Flo) ac Aidan Saunders (Print Wagon, Prints of Hay), mae eu cenhadaeth yn syml ond yn eangfrydig: adeiladu ar y diwylliant print presennol yn y de a gwneud y ffurf gelfyddydol yn hygyrch i bawb. “Bydd yr awyrgylch gŵyl yn galluogi pobl i wneud cysylltiadau, i rannu adnoddau, ac yn fodd i bawb gael cyfle a chyfranogi.”
Mae'r Printhaus wedi’i leoli yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Treganna. Rownd y gornel mae Cardiff Print Workshop a’r Print Market Project. Y 'triongl print', os mynnwch. Hefyd yn y cyffiniau mae The Amplifier Press, Prim Print, Neuadd Llanofer ac Oriel Canfas, i enwi ond ychydig o’r sefydliadau sy'n gysylltiedig â phrint sy'n rhan o’r gymuned argraffu leol.