Artist neu gerddor ydych chi sy’n barod i dorri dros y tresi?

Bydd grŵp dethol o gerddorion ac artistiaid rhyngwladol yn cwrdd i rannu ymarfer, cydweithio ar draws disgyblaethau a chyfrannu at adfywiad artistig tref ym Mhortiwgal. Dros 13diwrnod, bydd arweinwyr y cyrsiau’n meithrin cymuned fywiog drwy sesiynau symud, gweithdai grŵp, rhannu sgiliau, teithiau lleol, rhoi briff creadigol, mentora a rhagor. Penllanw’r cwrs fydd curadu digwyddiad i rannu gwaith newydd â’r cyhoedd sy'n cynnwys ffotograffiaeth, ffilm, sain a cherddoriaeth.

 

Mae Gwledydd eraill, Seiniau eraill yn gwrs wedi'i hwyluso ar gyfer artistiaid sy'n barod i fentro, torri dros y tresi, cyd-greu a chydweithio. Byddwn yn gweithio'n gyflym, chwarae a meithrin cefnogaeth. Ar ôl y cwrs, byddwch wedi'ch ysbrydoli, eich deffro a'ch ailgysylltu â’ch rheswm gwreiddiol am droi’n artist.

 

Eleni, rydym yn falch o gefnogi gwaith Estação Cooperativa yn nhref Casa Branca, hen groesfan trenau. Bydd ein cywaith yn ystyried cynaliadwyedd, adfywio, cymuned ac ailfywiogi lleoedd sydd wedi’u gadael.

 

Mae tua 10 lle ar gael i gerddorion a 5 i artistiaid. Mae ar agor i artistiaid o wahanol ddisgyblaethau gan gynnwys cerddoriaeth, celf weledol, dawns ac ati.

 

Ffi

Rhwng 1,100€ ac 1,500 gyda blaendal o 250 (sy’n cynnwys hyfforddiant, llety a bwyd ond nid teithio i Casa Branca)

300 o ddisgownt o archebu lle cyn 15 Mehefin

2 ysgoloriaeth o 500 ar gael i artistiaid Portiwgal sydd yn y wlad

Cymorth ariannol ychwanegol ar gael

 

Rydym yn derbyn ceisiadau unrhyw bryd.

Bydd y cwrs yn cael ei guradu a'i hwyluso gan:

  • Filipe Sousa (Portiwgal, Tiwtor yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, Ysgol Cerddoriaeth a Dawns Trinity Laban a Chyfarwyddwr Artistig Skoola)
  • Beatriz Martinez (Sbaen, Cydlynydd Rhaglen Meistr Ffotograffiaeth Gyfoes Ryngwladol Ysgol Ffotograffiaeth EFTI)
  • Kate Smith (DU/UDA, Sylfaenydd Curiosa a’r Embodied Voice)

 

Mewn partneriaeth ag Estação Cooperativa, gyda chefnogaeth gan Fwrdeistref Montemor-o-novo, Oficinas do Convento a Junta de Freguesia de Santiago do Escoural

Ebost cyswllt: DiscoverCuriosa@gmail.com