Paratowyd y gwerthoedd hyn gan sefydliadau ymgyrchu We Shall Not Be Removed, Attitude is Everything, Ramps on the Moon, Paraorchestra a What's Next gyda chyfraniad Andrew Miller, Hyrwyddwr Anabledd Llywodraeth y DU dros y Celfyddydau a Diwylliant. Mae Andrew hefyd yn aelod o Gyngor, Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r 7 egwyddor yn gofyn i bawb sy'n gweithio yn y maes i sicrhau nad yw pobl anabl sy’n artistiaid, cyfranogwyr, gweithwyr ac aelodau o’r gynulleidfa  yn wynebu gwahaniaethu wrth i'r diwydiant ymsefydlogi ac ailagor i'r cyhoedd. Mae'r egwyddorion yn atgoffa sefydliadau o'u rhwymedigaeth gyfreithiol i gefnogi cydraddoldeb gan roi cysylltiadau ag adnoddau ac enghreifftiau o’r arfer orau.

Heddiw meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr y Cyngor:

"Mae’r coronafeirws wedi cael effaith fawr ar bobl sy’n creu a mwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Mae pawb yn awyddus i ailddechrau gweithgarwch cyn gynted â phosibl.

"Rhaid aros wrth reswm nes bod y sefyllfa’n caniatáu gwneud hynny’n ddiogel. Ond wrth ei wneud, rhaid arfer dull hollol gynhwysol. Bydd dull teg yn sicrhau bod pawb yn mwynhau'r un cyfleoedd. Rydym ni’n disgwyl i hyn fod yn wir i bobl fyddar a phobl anabl."

Gellir darllen y ddogfen yma

Mae fersiynau mewn fformatau eraill, gan gynnwys BSL, ar gael yma: https://www.weshallnotberemoved.com/7-principles/