Rhan amser: 16 awr yr wythnos dros ddeuddydd Lleoliad: Gogledd Cymru
Cytundeb cyfnod penodol tan 31 Hydref 2024 Cyfradd tâl: £20 yr awr.

Mae Making Sense CIO am recriwtio cydlynydd prosiect rhan amser i gynnal prosiect i wreiddio creadigrwydd mewn gofal drwy weithio gydag artistiaid mewn cartrefi gofal preswyl a grwpiau cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia ledled sir Conwy.

Elusen dan arweiniad artist yw Making Sense CIO ac mae ei waith a’i werthoedd wedi’i seilio ar gyfathrebu mewn modd sy’n defnyddio’r holl synhwyrau, cydlynu cymunedol a chyd-gynhyrchu.
Ein gweledigaeth yw creu adnoddau synhwyraidd hygyrch sy’n helpu pobl am- rywiol a bregus i gysylltu â’r byd mewn ffordd greadigol.

Sefydlu dull darparu’r gwasanaeth mewn modd cynaliadwy er mwyn rhoi gwasanaeth parhaus i staff gofal a defnyddwyr gwasanaethau yng Ngogledd Cymru.
Cysylltu cymunedau â’r celfyddydau a diwylliant er budd eu lles.

Byddwch yn gweithio’n agos â chymunedau, cartrefi gofal ac artisitiaid i gydlynu gweithgareddau a threfnu dyddiau hyfforddiant, yn ogystal â chasglu data, moni- tro a gwerthuso drwy gydol y prosiect.

Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn llawn hunan gymhlliant ac yn drefnus iawn.

Byddwch yn hyfedr mewn sgiliau Technoleg Gwybodaeth, yn cynnwys defnyddio pecyn Microsoft 365 (rhaglenni Word, Excel, PowerPoint ac ati).

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Gall y swydd fod yn hyblyg a chynnwys gweithio o gartref i gyd-fynd ag ymr- wymiadau sy’n bodoli eisoes.

‘Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’

Dyddiad cau: 30/01/2024