Un o amcanion Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yw creu a chynnig cyfleoedd i’r rheini ohonom a allai fod wedi’n gwthio i’r cyrion neu wedi’n cau allan gan y diwydiant cyfryngau. Dyna pam rydyn ni wedi partneru ag Archif Ddarlledu Cymru ar brosiect cyffrous a fydd yn cyhoeddi gwaith gan dri o’n haelodau.

Mae’n agored i unrhyw un sy’n aelod o Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru. Mae aelodaeth am ddim a gallwch ymuno trwy lenwi’r ffurflen gyflym ar ein gwefan.

Bydd hwn yn gyfle gyda thâl i newyddiadurwyr a phobl greadigol ymylol i ymateb i ddeunydd o Archif Ddarlledu Cymru mewn tri chomisiwn ar wahân - trwy destun, sain neu fideo. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn dilyn cwblhau’r prosiect hwn, gan arddangos y gwaith a chynnig cyfle i gyfarfod a dysgu oddi wrth aelodau eraill. Bydd penderfyniad ymwybodol i ddewis ymgeisydd o ogledd, canolbarth a de Cymru i adlewyrchu ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau daearyddol.

bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn £1000 am eu darn, i’w dalu ar ôl ei gwblhau (h.y. ar ôl y drafft terfynol).

Mwy o wybodaeth yma
 

Dyddiad cau: 09/10/2024