Prosiect celf uchelgeisiol gan bobl ifanc Gogledd Cymru mewn cydweithrediad ag artistiaid rhyngwladol o fri
Fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant yr Oriel Genedlaethol, mae Frân Wen yn cydweithio gydag oriel Mostyn yn Llandudno a’r artist celf cyhoeddus blaenllaw Jeremy Deller i gyflwyno Carreg Ateb: Vision or Dream? – prosiect uchelgeisiol sy’n rhoi llwyfan i leisiau newydd wrth ail-ddychmygu’r berthynas rhwng hanes, hunaniaeth a dychymyg creadigol.
Wedi’i ysbrydoli gan hanes y trysorau cenedlaethol a gafodd eu cuddio yn chwareli llechi Manod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae’r prosiect yn cynnig cyfle i bobl ifanc hawlio eu lle o fewn stori ddiwylliannol Cymru – nid drwy lens rhamantaidd, ond drwy ddull beiddgar sy’n archwilio trawsnewid, mynegiant personol a’r dyheadau ar gyfer yfory.
Darllenwch y stori lawn yma 👇