Arddangosfa bwysig o gelf gyfoes yn dod i Gymru.
Mae 13 o artistiaid annibynnol o’r Vulgar Earth Collective yn archwilio ‘The Lie of the Land’. “Lle rydyn ni’n gweld ein hunain heddiw, cysyniadau o’n tir, ein lle ynddo a’i le yn ein hymwybyddiaeth.”
Mae'r curadur gwych Simon Meiklejohn yn portreadu persbectifau unigol y Vulgar Earth Collective, tra ar yr un pryd yn cyfuno eu myfyrdodau ar y cysylltiad rhwng yr ysbryd dynol a natur i gynhyrchu arddangosfa wirioneddol ddeniadol ac esthetig, gan arwain at fyfyrio ar natur a hyrwyddo amddiffyn ein tirweddau amgylcheddol.
Grwp dielw o artitiaid proffesiynol yw Vulgar Earth Collective sydd wedi llywio datblygiad cymdeithas i gyfeiriad mwy gwaraidd, cynaliadwy, teg a gwerth chweil. Trwy ddwyn i gof motiffau o'r amgylchedd trwy ddefnydd medrus o ddeunyddiau naturiol a phortreadau sy'n ysgogi'r meddwl o'r byd naturiol, maent yn annog trafodaeth a chyfranogiad mewn materion cymdeithasol ac amgylcheddol pwysig.
Dydd Mercher i ddydd Sul o 11am tan 4pm tan 6 Gorffennaf. Croesewir grwpiau a theithiau addysgol trwy apwyntiad.