P'un ai ydych chi'n stiwdio datblygu annibynnol neu'n gyhoeddwr sefydledig, wedi graddio'n ddiweddar neu'n recriwtiwr sy'n chwilio am ddylunwyr graffig: Mi fydd cyfle gan chwaraewyr mwyaf amrywiol y diwydiant gemau i gyfnewid syniadau yn 'Open Stage Games BW.' Mae'r system llwyfan-agored hefyd yn rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb ddod â'u pryderon i'r llwyfan a chymryd rhan yn weithredol.

 

Cewch gyfle i rannu mewnwelediadau i gemau a chysyniadau cyfredol, cyfnewid syniadau newydd a chyfleoedd cyhoeddi, gan gynnwys yr heriau i stiwdios ifanc ac sy'n llai o faint. Yn ogystal, byddwn yn trafod y camgymeriadau nodweddiadol sydd i'w weld o fewn cytundebau datblygu. Gall popeth sy'n symud y sîn gemau cael eu trafod.

 

Mae'r 'Open Stage Games BW' yn digwydd pedair gwaith y flwyddyn, gyda Stuttgart a Karlsruhe yn rhannu'r digwyddiad pob yn ail dro.

 

Cewch gyflwyniadau gan y stiwdio Gymreig Sugar Creative a Mackevision o Stuttgart. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae'n rhaid cofrestru. Felly cofrestrwch nawr er mwyn darganfod sîn gemau y De Orllewin.

 

Mae'r tudalen cofrestru uchod trwy gyfrwng Almaeneg, gwelir y cyfieithiadau Cymraeg yma.

 

Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu gan MFG Baden-Württemberg mewn partneriaeth â CyberForum, K³ Kultur- und Kreativwirtschaftsbüro der Stadt Karlsruhe, Film Commission Region Stuttgart a game Baden-Württemberg.