Mae’r actores, cyfarwyddwr, cyflwynwraig ac awdures Ffion Dafis wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws.

Yn gweithio fel cyfranydd llawrydd yn y byd celfyddydol yng Nghymru ers dros 25 mlynedd, y mae ar hyn o bryd yn sgriptio ei chyfres ddrama newydd i S4C yn ogystal â chyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru. 

Bydd Ffion yn cymryd yr awenau gan Betsan Llwyd, sydd wedi bod yn y swydd ers 2012. 

Mae Theatr Bara Caws yn gwmni cydweithredol, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Maent yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau cymunedol, gyda’u sioeau theatr yn teithio i bob cwr o Gymru.

Yn ôl Mared Llywelyn, oedd yn cadeirio y panel cyfweld a sydd hefyd yn Is-Gadeirydd Bwrdd Bara Caws, “Mae penodiad Ffion Dafis yn gam cyffrous i’r cwmni, a ninnau ar drothwy dathlu pen-blwydd yn 50 a datblygiadau’r cartref newydd.

“Rhannodd Ffion weledigaeth ddychmygus a beiddgar - yn addo y bydd Bara Caws yn parhau fel y ‘Babi a ddaeth i’r byd yn bowld ac yn swnllyd’. Yn ei geiriau hi,’ Mae’n bwysig bod y sŵn a’r strancio yn parhau.”

Meddai Ffion Dafis, “Feddyliais i erioed wrth sleifio i mewn i gefn y neuadd ym Mhenrhosgarnedd i wylio ‘Swmba’ pan yn hogan chwilfrydig rhy ifanc o lawer y byddwn i’n cael y fraint o arwain y rebal o theatr yma i bennod newydd yn ei hanes.

“Wrth i gymdeithas newid, mae’n rhaid i ni arwain y naratif ac adlewyrchu y Gymru amrywiol yr ydan ni’n byw ynddi. Dwi’n barod i fod yn ddewr a cheisio denu cynulleidfaoedd sy’n credu nad ydy theatr o reidrwydd ar eu cyfer nhw. Dwi hefyd eisiau tanio dychymyg y gynulleidfa driw sy’n meddwl y byd o’r theatr - theatr sy’n rhan o’n gwead ni yma yng Nghymru.”

Ychwanegodd Mari Emlyn, aelod o Dîm Rheoli Bara Caws, “Fel rhan o’i chyflwyniad yn ei chyfweliad ddydd Mercher, mi ofynodd Ffion “Ydan ni am ffitio fel maneg?” ar ateb yn sicr ydi “ydan!”. Fel cwmni cydweithredol mae hynny’n holl bwysig, rydym yn hynod gyffrous fel tîm ac edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos gyda hi i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.”

“Bydd Ffion yn cymryd yr awenau o ddwylo medrus Betsan Llwyd ac yn cychwyn ar ei gwaith yn Ionawr 2026 - jesd mewn pryd i ddathliadau Bara Caws yn 50.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mari Emlyn ar 07884 232 867 / mari@theatrbaracaws.co.uk