Wedi'i leoli ar Love Lane yn Ninbych, mae The Carriageworks wedi gweld trawsnewidiad a ddaeth yn ddiweddar yn ofod rheolaidd ar gyfer celf gyfoes. StudioMADE yw ei enw ac mae'n cael ei redeg gan yr artistiaid Angela Davies a Mark Eaglen. Ers diwedd 2022 maent wedi bod yn brysur yn trefnu arddangosfeydd a digwyddiadau rheolaidd allan o’r adeilad hanesyddol sydd wedi’i leoli’n agos at dir y castell.

Mae’r diweddaraf yn yr arddangosfeydd hyn yn gweld Rosie Wyllie, intern curadurol a gradd MA diweddar o Gaerdydd, yn llunio detholiad o weithiau celf gan raddedigion BA ac MA diweddar o bob rhan o Gymru. Mae’r sioe, sy’n dwyn y teitl A Different View, yn cynnwys gwaith naw artist: Seren Ambrose Ellis, Megan Bloomfield, Nandini Chandavarkar, Sarah Grounds, Harri Hughes, Gweni Llwyd, Ruth Petersen, Jonathan Retallick a Ryan Saunders.

Mae’r arddangosfa’n rhoi llwyfan i syniadau graddedigion diweddar ac i drywyddau ymholi sy’n dod i’r amlwg. Mae’r gweithiau celf sy’n cael eu harddangos yn archwilio’r berthynas rhwng materoldeb a lle, yn codi cwestiynau ynghylch hunaniaeth a hunanddelwedd, yn wynebu seilweithiau cymdeithasol a gwleidyddol, ac yn cyfleu cynildeb a chymhlethdodau profiad bob dydd. Mae’r artistiaid wedi astudio mewn sefydliadau celf ledled Cymru, gan gynnwys Ysgol Gelf Aberystwyth, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Celf Abertawe PCYDDS, a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Bydd A Different View yn rhedeg yn studioMADE tan ddydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023 ac mae ar agor dydd Iau – Sadwrn, 11yb tan 4yp.

connect@studiomade.org.uk

studioMADE, The Carriageworks, 6 Love Lane, Dinbych LL18 3LU