Mae SPAN Arts yn falch o gyflwyno Jam Diwylliant Cwiar, diwrnod cydweithredol o weithdai, trafodaethau, cerddoriaeth, dawns a mwy i'n cymuned leol rhannu yn ymarfer a straeon pobl greadigol Cwiar lleol.

Bydd y Jam Diwylliant Cwiar yn cael ei lywyddu gan y darlledwr a'r awdur Damian Kerlin ac mae'n cynnig diwrnod llawn o ddigwyddiadau, o 11 y bore tan hanner nos, gan edrych ar rannu straeon a gweithio'n greadigol ac ar y cyd.

Gyda gweithdai yn rhedeg drwy gydol y dydd dan arweiniad ein pobl greadigol Cwiar lleol, Emily Laurens, Jane Campbell, Samara Van Rijswijk, Anna Sherratt a Niamh Amelia, mae amrywiaeth o weithgareddau yn archwilio arfer creadigol a hunaniaeth i’w mwynhau. Bydd y gweithdai hyn yn edrych ar bortreadau, tecstilau, adrodd straeon, gair llafar, sgriptio, ffuglen wyddonol a mwy wrth iddynt archwilio syniadau sy'n cofleidio unigrywiaeth, hunan-hunaniaeth a rhannu eich stori trwy ymarfer creadigol. Cynhelir y drafodaeth banel "Queer Talk - How our identity can influence our practice", yng ngofal Damian Kerlin, o flaen cynulleidfa fyw ac yn ogystal  bydd yn cael ei ffrydio ar-lein gan ganolbwyntio ar sut beth yw bod yn berson creadigol cwiar, gan ddod o hyd i lwybr yn y diwydiannau creadigol a phrofiadau personol. Daw'r diwrnod i ben gyda Branwen Munn, DJ o Orllewin Cymru, ac rydym yn gwahodd pawb i ddod i fwynhau awyrgylch creadigol a cherddoriaeth drydanol y digwyddiad llawen a chynhwysol hwn.

Cynhelir y Jam Diwylliant Cwiar ddydd Sadwrn Mehefin 29ain mewn dau leoliad yn Abergwaun, Ffwrn a Hwb Cymunedol Gateway. Bydd pitsa ar gael gyda'r nos yn Ffwrn. Mae tocynnau am ddim ond rhaid eu harchebu i sicrhau eich lle. Rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn i'r parti dawnsio.

Dewch o hyd i'r amserlen lawn o ddigwyddiadau gyda mwy o fanylion a dolenni archebu ar wefan Celfyddydau SPAN.

Mae croeso i bawb fynychu'r digwyddiad hwn, ac rydym yn gwahodd aelodau o'r gymuned LHDTC+, pobl greadigol leol, a'r gymuned leol o bob oed i ymuno â ni ar gyfer y dathliad cyffrous hwn o ddiwylliant a chreadigrwydd Cwiar.

Mae tocynnau ar gael i'w harchebu nawr, ewch i  span-arts.org.uk, neu ffoniwch 01834 869323.